Cyllid Strwythurol yr UE

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:50, 20 Mawrth 2019

Mae yna gryn bryder am ddyfodol prosiect arloesol Ffarm Moelyci yn fy etholaeth i. Mae ymddiriedolaeth Cwm Harry dros ddwy flynedd i mewn i brosiect tair blynedd sy’n cael ei arwain gan brifysgol yn yr Almaen fel rhan o raglen INTERREG, sy’n cynnwys 11 partner mewn pump o wledydd yn Ewrop. Mae’r prosiect wedi archebu peiriant prosesu biomas mawr ac ar fin gwario degau o filoedd o bunnau yn yr economi leol. Fel yr oeddech chi’n ei ddweud, mi oedd yna addewid y byddai prosiectau sydd wedi cael eu cymeradwyo yn cael arian petai Brexit yn digwydd. Ond mae Cwm Harry yn dweud wrthyf fi fod yr holl brosiect ym Moelyci o dan gwmwl oherwydd maen nhw wedi cael ar ddeall nad ydy’r sicrwydd yna ddim yno bellach. A fedrwch chi roi eglurder am y sefyllfa? Oes yna brosiectau eraill dan fygythiad, a beth fedrwch chi fel Llywodraeth ei wneud i helpu?