Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 20 Mawrth 2019.
Diolch am y cwestiwn pellach hwnnw. Rwyf yn gwybod bod yr Aelod wedi ysgrifennu’n benodol ataf i ynglŷn â’r cwestiwn penodol hwnnw. Mae'r swyddogion ar hyn o bryd yn edrych mewn i fanylion y sefyllfa honno, a byddaf i’n ysgrifennu nôl atoch chi maes o law am hynny’n benodol.
Ond yn fwy cyffredinol, yng nghyd-destun gadael heb gytundeb, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynnig garantî o ariannu unrhyw brosiect sydd wedi cael ei gadarnhau cyn diwedd y flwyddyn nesaf, ac felly bydd cyfle i wario y tu hwnt i hynny tuag at 2023. Felly, mewn egwyddor, petasem ni’n gadael heb gytundeb neu gyda chytundeb, dylai fod dim newid o fewn y trefniadau presennol i’r rheini sydd yn barod yn derbyn arian o fewn cyfnodau y rhaglenni sydd wedi cael eu derbyn yn barod.
Mae trafodaethau ar hyn o bryd yn digwydd rhwng y Llywodraeth yma, rhwng y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â’r manylion sut mae’r garantî hynny’n gweithio yn ymarferol. Un o’r pethau rŷn ni’n sicr eisiau sicrhau yw bod yr un hyblygrwydd yn perthyn i’r ymroddiad dros gyfnod o flynyddoedd ag sy’n berthnasol ar hyn o bryd. Ond o ran yr hyn mae’r Aelod yn gofyn amdano’n benodol, rwyf yn hapus i ateb y llythyr sydd eisoes wedi’i anfon ataf.