Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 20 Mawrth 2019.
Gweinidog, dwi’n siŵr y byddwch yn ymwybodol bod prosiectau yn sir Benfro sydd wedi derbyn arian Ewropeaidd yn brosiectau amrywiol sydd yn amrywio’n enfawr, o fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc a chefnogi arloesedd arbenigol ymhlith busnesau bach, i brosiectau seilwaith ac ehangu’r diwydiant twristiaeth. Mae'n bwysig bod unrhyw raglenni ariannu olynol yn galluogi cymunedau i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau gwario. Ond a all y Gweinidog gadarnhau y bydd unrhyw gynlluniau newydd yn sicrhau bod arian yn cael ei dargedu at feysydd penodol, neu a oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth benodol mewn golwg i ailffocysu ar agweddau eraill o bolisi cyhoeddus?