3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2019.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cwymp y cwmni adeiladu Dawnus, sydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? 288
Ie, diolch. Mae hwn yn amlwg yn newyddion siomedig iawn i'r cwmni, i'r gweithlu, eu cleientiaid a chadwyn gyflenwi ehangach adeiladu yng Nghymru. Rydym yn barod i wneud popeth a allwn i gefnogi'r gweithwyr drwy waith tasglu rwyf wedi galw am ei sefydlu ar unwaith.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond rwy'n gofidio fwyaf am y gweithlu a'u teuluoedd, a'r rheini sydd ar eu colled drwy'r gadwyn gyflenwi gyfan. Mae'n rhaid ei fod yn gyfnod gofidus iawn iddynt. Hefyd, mae angen sicrhau bod unrhyw brentisiaid sydd wedi cael eu dal yn hyn i gyd yn cael eu cefnogi, ac mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu wedi nodi eu bod yn barod i helpu, ac maent wedi helpu mewn sefyllfaoedd eraill tebyg.
Pan fo cwmni mawr fel Dawnus yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, mae'n rhoi busnesau lleol, llai o faint mewn perygl, a gallai gael effaith ddinistriol ar yr economïau lleol hynny. Gwyddom eu bod yn cyflogi 700 o bobl yn uniongyrchol, ac mae hwnnw'n nifer mawr ynddo'i hun, ond mae yna nifer bosibl sy'n llawer mwy o fewn yr ardal leol, fel rwyf newydd ei ddisgrifio. Nid niferoedd o bobl yn unig yw'r rhain, ond teuluoedd go iawn sy'n cael eu heffeithio gan y methiant hwn. Felly, rwy'n awyddus i wybod pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i'r holl gwmnïau a gweithwyr yr effeithiwyd arnynt gan y newyddion gofidus hwn.
Hefyd, ar yr ochr arall i hyn, yn fy etholaeth, Canolbarth a Gorllewin Cymru, roedd Dawnus dan gytundeb i adeiladu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ar gyfer 360 o ddisgyblion ac ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ar gyfer 150 o ddisgyblion yn y Trallwng, yn ogystal â'r ysgol newydd yn lle Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth. Roedd disgwyl i ysgol gynradd cyfrwng Saesneg y Trallwng gael ei chwblhau ym mis Medi eleni. Ond roeddent hefyd dan gytundeb yn fy ardal i ddarparu ffordd gyswllt Chimneys gwerth £1.1 miliwn a chynllun datblygu yn Abergwaun, ac mae'r gwaith hwnnw bellach wedi'i ohirio. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'r diwydiant i sicrhau y bydd y prosiectau hyn a grybwyllais yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, a'r rhai eraill a gontractiwyd i Dawnus, yn cael eu parhau'n llwyddiannus, fel y gallwn dawelu meddyliau'r bobl sy'n disgwyl i'r prosiectau hynny gael eu cyflawni, a'r rhai sy'n disgwyl cael eu cyflogi ganddynt?
A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiynau ac ymuno â hi i gydymdeimlo'n ddwys â'r nifer fawr o bobl, y nifer fawr o deuluoedd yr effeithir arnynt gan y newyddion gofidus hwn, ac a fydd yn cael cymorth gan y tasglu? Mae gennym hanes profedig o gynnull tasgluoedd ar gyfer Virgin, Schaeffler, Tesco a busnesau eraill sydd wedi colli adnoddau dynol, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gallu dod o hyd i lawer o gyfleoedd gwaith mewn mannau eraill yn y sector.
Cododd yr Aelod nifer o bwyntiau pwysig, gan gynnwys dyfodol prentisiaid a busnesau a gâi eu cyflogi gan brosiectau amrywiol drwy'r gadwyn gyflenwi. Nawr, gallaf gadarnhau ein bod wedi ymgysylltu â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu ac y byddwn yn gweithio gyda hwy i nodi lleoliadau newydd ar gyfer cynifer o'r prentisiaid â phosibl, fel y gallant gwblhau eu fframweithiau a mynd ymlaen i gael gwaith hirdymor cynaliadwy o fewn y sector.
Hefyd, gwnaeth yr Aelod bwynt pwysig iawn pan ddywedodd nad de Cymru yn unig sy'n cael ei effeithio gan yr her hon, ond canolbarth Cymru a gogledd Cymru, y Gymru drefol a'r Gymru wledig yn ogystal. Felly, mae'r her yn un genedlaethol, a dyna pam y bydd y tasglu'n mynd i'r afael â hyn drwy ymyriadau ar draws y wlad os bydd angen.
Byddwn yn gweithio gyda'r gweinyddwr yn ogystal ag asiantaethau partner a'r sector preifat i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i bawb yr effeithiwyd arnynt. Byddwn hefyd yn gweithio gyda llywodraeth leol ar y nifer o raglenni ysgolion, cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd a phrosiectau seilwaith i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei amddiffyn a'n bod yn gallu datblygu cynifer o'r prosiectau â phosibl drwy is-gontractwyr neu drwy drefniadau amgen. Mae hwn yn gyfnod gofidus iawn i lawer o fusnesau a llawer o deuluoedd, ond mae Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru, wrth gwrs, yn barod i helpu lle bynnag y gallwn.
Diolch yn fawr am y sylw olaf hwnnw, oherwydd un o'r cwestiynau roeddwn am eu gofyn, wrth gwrs, oedd bod hyn yn wahanol i Tesco neu Virgin—mae hwn yn gwmni y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ynddo, ac felly, drwy alluogi Dawnus i fodoli am ddwy neu dair blynedd arall, rhaid gofyn a ydych wedi caniatáu iddynt ymrwymo i rai cytundebau, yn sgil y ffaith bod y cwmni wedi'i ganiatáu i fodoli ac i ymrwymo i'r cytundebau hynny.
Ond rwyf am ddechrau gyda rhai cwestiynau ynghylch benthyciad Llywodraeth Cymru a'r £1.5 miliwn sy'n weddill ar hwnnw. Rydym yn sôn am weinyddiaeth yma, nid diddymiad, felly bydd yn cymryd cryn dipyn o amser a gorchymyn llys cyn y byddwch yn gallu cael eich arian allan ohono. A allwch gadarnhau mai taliad sefydlog sydd gennych yn hytrach na thaliad arnawf, a gwerth yr asedau y gwarantwyd hwnnw yn eu herbyn, er mwyn inni gael syniad bras o faint sydd ar gael ar gyfer credydwyr eraill pan fyddwch chi a'r banciau wedi cael eich talu.
Yn ein datganiad ysgrifenedig cynharach, fe gyfeirioch chi at wanhau sefyllfa ariannol Dawnus. A ydym yn gwybod faint o arian sy'n ddyledus i'r cwmni? A pham, yn benodol, fod yr hyder a ddangoswyd ynddynt mewn cynllun adfer yn 2016 wedi profi'n ddi-sail? Oherwydd, yn ôl pob tebyg, roedd hynny'n dibynnu, i ryw raddau, ar sicrhau bod unrhyw ddyledion a oedd yn ddyledus ar y pwynt hwnnw'n cael eu talu'n gyflym a bod unrhyw ddyledion yn y dyfodol yn cael eu talu'n gyflym. Yn ôl pob tebyg, credaf y bydd elfen o'r hyder y mae cyrff cyhoeddus eraill, megis cynghorau, wedi'i ddangos yn y cwmni hwn yn seiliedig yn rhannol ar y golau gwyrdd a roesoch i Dawnus yn ôl yn 2016, ac rwy'n meddwl tybed a ydych yn cytuno bod hynny'n wir neu a ddylai pob corff cyhoeddus ddibynnu 100 y cant ar eu diwydrwydd dyladwy eu hunain, yn hytrach na disgwyl i Lywodraeth Cymru roi arwydd o hyder mewn cwmnïau penodol.
A allwch chi gadarnhau, yn benodol, nad yw cyllid Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar gyfer datblygiad Kingsway yn Abertawe wedi cael ei effeithio? Gwn fod y cyngor yn chwilio am gontractwr newydd, yn amlwg, i ymgymryd â'r gwaith, ond os yw'r cyllid hwnnw mewn perygl mewn unrhyw ffordd, mae hwnnw'n fater eithaf difrifol.
Ac yna, fy nghwestiwn olaf, a oedd yn ymwneud â'r gweithlu a chadwyni cyflenwi: soniasoch y gallai'r banc datblygu gamu i mewn os bydd angen, ond a fyddwch yn gofyn i gwmnïau'r gadwyn gyflenwi edrych ar eu banciau eu hunain yn gyntaf, neu a yw hwn yn gynnig agored, i bob pwrpas, ar gyfer cwmnïau sydd â phroblemau'n ymwneud â llif arian parod yn unig? Nid wyf yn gofyn i chi eu hachub os nad ydynt yn gwmnïau cynaliadwy, ond a yw hwnnw'n gynnig agored neu a yw'n gynnig amgen i'r hyn y gallai'r banciau fod yn barod i'w wneud?
Diolch. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Er tegwch i'r busnesau is-gontractio sydd ynghlwm wrth hyn drwy'r gadwyn gyflenwi, credaf fod llawer ohonynt eisoes wedi ymgysylltu â'u banciau, ond bydd Banc Datblygu Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru drwy'r tasglu i ganfod unrhyw angen ychwanegol a allai godi.
Ni allaf wneud sylwadau ar y dyledwyr eraill ar hyn o bryd, ond mewn perthynas â'r cwestiwn penodol ar y prosiect Kingsway, deallaf nad effeithir ar gyllid Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Fodd bynnag, byddaf yn ceisio sicrwydd ar hynny, ac yn amlwg, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fyddaf wedi cael cadarnhad.
O ran y buddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru drwy'r benthyciad masnachol o £3.5 miliwn, rhoddwyd £3.5 miliwn o arian cyfatebol gan fanc y busnes ei hun, o dan yr un telerau ac amodau, yn ogystal â'r un lefel o sicrwydd a chymorth er mwyn helpu'r busnes a'i weithwyr, fel y dywedais eisoes, drwy gyfnod anodd iawn mewn perthynas â'i lif arian parod. Nawr, hyd yma, rydym wedi derbyn £2 miliwn yn ôl, ac rydym yn hyderus y bydd telerau'r benthyciad yn golygu y bydd yr arian sy'n weddill yn cael ei ad-dalu maes o law. Ond credaf ei bod yn hollol gywir, ar hyn o bryd, y dylem ganolbwyntio ar y gweithwyr ac ar is-gontractwyr a chyflenwyr sydd, yn ddiau, wedi'u heffeithio'n wael gan y datblygiadau yn Dawnus. Felly, rydym yn amlwg yn canolbwyntio ein sylw ar sicrhau bod cyn lleied o effeithiau â phosibl yn deillio o dranc y cwmni, o ran cymunedau lleol a'r economi genedlaethol. Credaf ei bod yn bwysig dweud, o ran cymorth blaenorol Llywodraeth Cymru—ac nid wyf am ymddiheuro am gefnogi'r cwmni yn y gorffennol i sicrhau y gallent gyflawni prosiectau ac i sicrhau y gallent fynd ymlaen i gyflogi 700 o bobl—fod proses diwydrwydd dyladwy estynedig a dwys yn digwydd cyn bod contractau'n cael eu llofnodi, ac rwy'n hyderus iawn fod y contractau hynny wedi cael eu llofnodi'n ddidwyll ac yn y gred y gallai'r cwmni eu cyflawni a'u cwblhau.
Ni fyddaf yn ailadrodd y cwestiynau a godwyd eisoes, ond dywedaf eto fy mod yn rhannu'r pryderon a godwyd am y gweithlu ac ati. Roedd hwn yn gwmni pwysig iawn, wrth gwrs, yng Nghymru. Cwmni Cymreig balch, enw Cymraeg cryf, sy'n adlewyrchu'r doniau gwirioneddol a oedd yn bodoli o fewn y cwmni. Yr hyn sydd yn bennaf ar ein meddyliau heddiw yw galwad am bob cymorth i'r doniau o fewn y cwmni, a'r rheini sy'n gysylltiedig ag ef fel is-gontractwyr. Mae pryderon wedi'u codi gan fy nghyd-Aelodau, Bethan Jenkins a Dai Lloyd yn ne-orllewin Cymru lle roedd y cwmni wedi'i leoli, ond rydych yn iawn, mae'r pryderon yn rhai sy'n cyffwrdd â Chymru gyfan, ac roedd Dawnus yn gysylltiedig â rhai contractau allweddol yn fy etholaeth i yn ogystal.
Felly, rydym yn pryderu am y staff a gyflogir yn uniongyrchol, ac mae miliynau o bunnoedd yn ddyledus i'r is-gontractwyr wrth gwrs. Rwyf wedi siarad gydag un, cwmni da iawn yn fy etholaeth, ac mae £175,000 yn ddyledus iddo. I gwmni bach, mae hynny'n llawer o arian. Os gallwch esbonio, naill ai yn awr neu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf, y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau'r swm mwyaf o arian y gellir ei ad-dalu i'r is-gontractwyr hynny, a hefyd y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod yr is-gontractwyr hynny'n cael cymorth i barhau â'r prosiectau roedd Dawnus yn gysylltiedig â hwy mewn gwahanol rannau o Gymru—. Cwestiwn allweddol arall i mi wrth symud ymlaen yw beth sy'n cael ei wneud i edrych ar y posibilrwydd o ganiatáu i'r gweithwyr a gyflogwyd yn uniongyrchol gan Dawnus gael eu trosglwyddo—yn unol â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981—i gontractwyr a fydd yn parhau â'r gwaith ar gytundebau amrywiol mewn gwahanol rannau o Gymru, oherwydd, wrth gwrs, byddai hynny'n rhoi rhywfaint o ddiogelwch i'r gweithwyr hynny.
Ychydig o gwestiynau allweddol wrth edrych yn ôl: rydych wedi cadarnhau eich bod wedi gweithio gyda'r banc a Dawnus ei hun pan ddaethoch yn ymwybodol fod y cwmni'n wynebu anawsterau. A allech ddisgrifio'r hyn a ddigwyddodd tuag at y diwedd, a pham nad oedd yn bosibl i chi rannu mwy o wybodaeth a allai fod wedi galluogi amryw o gyrff cyhoeddus ac eraill i baratoi ychydig mwy? Hefyd, efallai y gallech gadarnhau a oedd yna fuddsoddwr a oedd yn barod i gamu i mewn a buddsoddi yn Dawnus a allai, o bosibl, fod wedi achub y cwmni.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Deallaf fod yna fuddsoddwr, o bosibl, a oedd yn barod i gamu i mewn. Fodd bynnag, er gwaethaf pob ystyriaeth a chredaf ei bod yn deg dweud, ymdrechion gorau pawb, roedd Dawnus wedi'i dynghedu i fethu. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ein hymdrechion yn awr ar sut y gallwn sicrhau bod y busnesau a allai gael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn yn cael eu cefnogi drwy gyfnod cythryblus iawn a sut y gallwn sicrhau bod cynifer â phosibl o aelodau o staff yn dod o hyd i waith amgen.
Bydd y tasglu'n ymdrin â mater trosglwyddo gweithwyr yn unol â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981. Mewn perthynas â rhai o'r contractau hynny a rhai o'r busnesau hynny a allai gael eu heffeithio'n uniongyrchol gan dranc Dawnus, mae dadansoddiad cychwynnol o gredydwyr y gadwyn gyflenwi yn dangos bod oddeutu 455 o gyflenwyr Cymru wedi cael eu heffeithio. Mae cyfanswm y gwerth sy'n ddyledus i'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru oddeutu £6 miliwn. Bydd swyddogion yn parhau i fonitro ac adolygu wrth i wybodaeth newydd gan y gweinyddwr ddod i law. Ond mae'n dangos pa mor hanfodol bwysig yw sicrhau bod y banc datblygu yn rhan annatod o waith y tasglu wrth symud ymlaen.
Roedd Dawnus yn fy etholaeth i mewn gwirionedd, yn Abertawe. Roedd yn fusnes adeiladu canolig ei faint, ac rydym angen busnesau preifat canolig eu maint yng Nghymru. Roedd y ffaith ei fod yn cyflogi 700 yn ei wneud yn gyflogwr mawr, yn Nwyrain Abertawe o leiaf. Ac os edrychwch ar y rhestr o gwmnïau yng Nghymru, cafodd ei enwi yn rhestr y 50 uchaf yn y Western Mail hyd nes y rhestr ddiwethaf. Bydd yn ergyd drom i economi Dwyrain Abertawe, ond rwy'n ymwybodol o'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ac fel y gwyddoch, gofynnais i chi am y lefel honno o gefnogaeth dros 12 mis yn ôl, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi'i darparu, hyd yn oed os nad oedd yn ddigon yn y pen draw. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn ceisio diogelu cwmnïau Cymreig cynhenid, canolig eu maint, ac ni allech gael cwmni mwy Cymreig na Dawnus.
Hoffwn gytuno â phopeth a ddywedodd Joyce Watson am y gweithlu, ac nid wyf am ei ailadrodd. Mae gennyf ddau gwestiwn. Soniasoch am roi cymorth; a fydd yr un lefel o gymorth ag a ddarperir i Virgin Media ar hyn o bryd, ac a ddarparwyd i staff Tesco, yn cael ei ddarparu i staff presennol Dawnus? Gwn nad yw mor syml â phe bai pawb ar yr un safle, ond lle bynnag y maent, bydd angen y cymorth hwnnw arnynt. Ac a dalwyd yr holl arian a oedd yn ddyledus iddo i Dawnus yn y pen draw am y gwaith a wnaeth yn Sierra Leone?
Ni allaf wneud sylwadau ar y pwynt olaf a godwyd gan yr Aelod, ond buaswn yn hapus i ysgrifennu ato pan fydd y wybodaeth ar gael fel y gallwn ateb y cwestiwn hwnnw, ond gallaf sicrhau'r Aelod y bydd y tasglu'n cynnig yr un lefel o gymorth i'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau diweddaraf yn Dawnus ag a gynigiwyd i staff Tesco, Virgin a chwmnïau eraill sydd wedi cael eu cefnogi gan wahanol dasgluoedd.
Nawr, mae'r Aelod yn gwneud pwynt hynod bwysig, ac rwy'n credu y dylem gydnabod am eiliad fod y cwmni yn un o'n mentrau canolig eu maint mwyaf balch yng Nghymru ac am y rheswm hwnnw, unwaith eto, nid wyf yn ymddiheuro am yr holl ymdrech a aeth i sicrhau bod y cwmni'n gweithredu'n gryf. Ond mae heddiw'n adeg hynod o drist i'r rheini a gâi eu cyflogi gan Dawnus ac rwy'n siŵr fod meddyliau pawb gyda'r gweithwyr, ac yn wir, gyda'r cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.