5. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:46, 20 Mawrth 2019

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i gyflwyno Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) i’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn ei gymeradwyo. Dwi'n gobeithio, yn wir, y bydd yr Aelodau’n cefnogi'r Bil y prynhawn yma, achos mi fydd y Bil yn cryfhau rôl yr ombwdsmon er mwyn diogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni, gwella cyfiawnder cymdeithasol, ac, wrth gwrs, sicrhau gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus a’r gwaith o ymdrin â chwynion.

Heddiw yw penllanw proses a ddechreuodd nôl yn 2015 pan wnaeth Pwyllgor Cyllid y pedwerydd Cynulliad, o dan gadeiryddiaeth Jocelyn Davies, gynnal ymchwiliad i ystyried ymestyn pwerau’r ombwdsmon. Ar ran Pwyllgorau Cyllid y pedwerydd a’r pumed Cynulliad, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr amryw ymgynghoriadau sydd wedi helpu i lywio a ffurfio'r Bil yma sydd ger ein bronnau ni heddiw.

Hefyd, mi hoffwn i ddiolch i’r Aelodau am ymdrin â’r ddeddfwriaeth hon mewn ffordd adeiladol a chydweithredol—y Bil cyntaf i fynd drwy’r Cynulliad dan law pwyllgor, a hynny oherwydd yr awydd sydd gan bob un ohonom ni i sicrhau bod yr oedolion sydd fwyaf agored i newid, sy’n aml yn fwyaf dibynnol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yn teimlo’n hyderus yn gwneud cwyn i’r ombwdsmon a bod ganddyn nhw'r hawl i ymateb teg i’r gŵyn honno. 

Dwi’n ddiolchgar i bwyllgorau’r Cynulliad sydd wedi bod yn gyfrifol am graffu ar y Bil, sef y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac yn arbennig y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau o dan gadeiryddiaeth John Griffiths. Mae’r gwaith craffu hwn wedi gwella’r Bil. Er enghraifft, erbyn hyn mae’r Bil yn sicrhau ei bod hi'n ofynnol i’r ombwdsmon ymgynghori â phersonau penodedig, fel comisiynwyr, wrth gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun; mae'r Bil nawr yn ei gwneud yn ofynnol i’r ombwdsmon gadw cofrestr o’r holl gwynion sy’n dod i law, ac mae'r Bil hefyd yn cryfhau’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau sy’n cael eu rhoi ar yr ombwdsmon mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.

Yng Nghyfnod 2, fe wnaeth yr Aelodau fynegi pryderon am atebolrwydd yr ombwdsmon at y dyfodol. A chyn y bleidlais heddiw, hoffwn i roi sicrwydd i'r Aelodau fy mod i wedi cynnal trafodaethau agoriadol gyda Chadeiryddion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch trefniadau goruchwylio presennol y Cynulliad, a sut y bydd modd eu cryfhau yn y dyfodol drwy ein cyfrifoldebau ar gyfer penodi'r ombwdsmon, craffu ar amcangyfrif adroddiad blynyddol a chyfrifon yr ombwdsmon ac, wrth gwrs, y ddyletswydd i adolygu gweithrediad y Ddeddf.  

Nawr, mae’r camau nesaf o ran gweithredu’r Bil yn cynnwys cael Cydsyniad Brenhinol a chychwyn, neu commencement, gan Weinidogion Cymru, gan weithio gyda’r ombwdsmon i sicrhau ei fod e wedi ymgynghori’n helaeth cyn i’r darpariaethau ddod i rym. Mae hefyd yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud y diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i Ddeddfau Senedd y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ymdrin â gallu'r ombwdsmon i weithio ar y cyd ag ombwdsmyn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a rhai darpariaethau mewn perthynas â'r rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data—y GDPR—sydd y tu hwnt i gymhwysedd y Cynulliad hwn. A tra bod rhai materion ymarferol fel yna i weithio drwyddyn nhw, mae swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi nodi ei bod yn fodlon delio â’r ddeddfwriaeth ganlyniadol angenrheidiol ac, wrth gwrs, mae hynny i’w groesawu yn fawr iawn.

Mae wedi bod yn siwrnai hir i gyrraedd cam 4 fel ag yr ŷn ni wedi ei gyrraedd e heddiw, a dwi’n gofyn yn garedig i Aelodau’r Cynulliad hwn gefnogi Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).