5. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:00, 20 Mawrth 2019

Dwi eisiau felly ategu, os caf i, y diolchiadau y gwnes i’n flaenorol i bawb—neu bron pawb—sydd wedi ymgysylltu â’r broses yma. A dwi eisiau diolch yn arbennig, os caf i, i holl staff y Comisiwn, yn enwedig y clercod, y tîm clercio a thîm cyfreithiol y Pwyllgor Cyllid, am eu cefnogaeth aruthrol nhw a’u holl waith nhw i ddod â ni i’r pwynt yma yn y broses. A gyda hynny o eiriau, a gaf i ofyn i Aelodau gefnogi’r Bil y prynhawn yma, a thrwy hynny agor pennod newydd yng ngwaith yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ac yn y gefnogaeth a’r warchodaeth sydd yna i drigolion Cymru, yn enwedig y rheini, wrth gwrs, sy'n fwyaf dibynnol ar ein gwasanaethau cyhoeddus ni?