Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 20 Mawrth 2019.
A gaf fi ddiolch i Lynne Neagle a fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor yn ogystal â staff y pwyllgor, a'r Gweinidog wrth gwrs, am eu rhan yn yr ymchwiliad hwn? Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau'n teimlo bod yr adroddiad yn ddiddorol. Ni chawsom gyfle i glywed gan y Gweinidog addysg ynglŷn â pharodrwydd yr adran ar gyfer Brexit yn y sesiwn faith a gawsom yn weddol ddiweddar, felly mae hwn yn gyfle i edrych ar hyn yn fanylach.
Er nad oes amheuaeth y bydd Brexit yn aflonyddu ar ein sector addysg uwch ac yn ergyd ariannol iddo, rwy'n meddwl mai'r hyn a'm trawodd fwyaf yn yr ymchwiliad yw ei fod wedi cydnabod yr heriau ac am fwrw ati i'w goresgyn, hyd yn oed yn cyfnod hwn o ansicrwydd. Roedd yna ymdeimlad gwirioneddol y byddai enw da ein sefydliadau addysg uwch yn ddigon cryf i wrthsefyll rhyferthwy'r storm sydd o'n blaenau, ond eu bod yn debyg o fod angen rhywfaint o gymorth gwleidyddol i hyrwyddo gwerth yr ased craidd hwnnw.
Nid oes gennyf broblem gydag ymrwymo i'r adroddiad hwn oherwydd y modd y fframiodd ei argymhellion. Un o'r cwestiynau sydd wedi dod yn fwyfwy anodd i'w hateb—neu a fydd yn anos i'w hateb ar ôl Brexit—yw pam y dylid trin staff a myfyrwyr sydd wedi dod o'r UE yn wahanol i staff a myfyrwyr o wledydd eraill o hyn ymlaen. Rhagoriaeth ein hymchwil a'n cynnig academaidd ddylai fod yn brif bwynt gwerthu i ni, ochr yn ochr â hygyrchedd i'r rheini a fyddai'n cael budd o brofiad prifysgol ni waeth beth fo'u cefndir—fel rwy'n dweud, dylai fod yn bwynt gwerthu, nid y gall unigolion o rai gwledydd gael mantais ariannol dros unigolion o wledydd eraill drwy'r grant ffioedd dysgu blaenorol, a dyna pam rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at y chwe argymhelliad cyntaf yn arbennig, lle rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru archwilio pam fod myfyrwyr o'r UE yn dewis dod i Gymru, ac adrodd yn awr ar waddol Cymru Fyd-eang a bod yn glir ynghylch ei disgwyliadau ar gyfer Cymru Fyd-eang II hefyd, oherwydd credaf fod yn rhaid iddynt fod wedi'u cysylltu.
Byddwn yn colli myfyrwyr o'r UE. Rwy'n sicr o hynny. Felly, mae angen i'n prifysgolion archwilio eu pwyntiau gwerthu unigryw a defnyddio beth bynnag y gall Cymru Fyd-eang II ei gynnig i gyd-fynd â'u strategaethau twf a chynnal a chadw eu hunain, a bydd hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru'n siarad unwaith eto â sefydliadau addysg uwch i wneud yn siŵr fod Cymru Fyd-eang II yn gydnaws â blaenoriaethau strategol y prifysgolion yn yr amgylchedd newydd heriol hwn—oherwydd mae'n fwy heriol. Rydym eisoes wedi gweld gostyngiad o 10 y cant yn nifer y myfyrwyr o'r UE sy'n astudio yma pan fu cynnydd o 2 y cant mewn rhannau eraill o'r DU, a chlywsom hefyd, er gwaethaf hynny—er gwaethaf hynny—fod dibyniaeth tymor byr i dymor canolig y sector ar ffrydiau ariannu'r UE ar gyfer rhaglenni yn gymharol uchel, a dyna pam roeddwn yn credu bod argymhelliad 1 yn ddiddorol iawn, ac rwy'n derbyn, fel y soniodd Lynne yn gynharach, efallai na fydd angen hwnnw yn awr, ond rwy'n dal i gredu ei fod yn rhywbeth i ofyn i ni'n hunain: a ellid archwilio ein pwerau sy'n gysylltiedig â'r maes addysg datganoledig er mwyn dyfeisio ffordd o ddefnyddio rheolau gwahanol ar gyfer caniatáu i fyfyrwyr a staff tramor ddod yma.
Yn ogystal â Cymru Fyd-eang, clywsom dystiolaeth hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru fwrw ati yn awr i gyflawni argymhellion adolygiad Reid, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad o £6 miliwn. Nid yw'n arbennig o glir pam y bu'r polisi yn llyffethair yn hyn o beth. Os oes angen i'n prifysgolion werthu rhagoriaeth, arloesedd ac arbenigedd er mwyn denu'r cyllid, y staff a'r myfyrwyr y bydd eu hangen arnynt, ni all polisi Llywodraeth eu rhoi o dan anfantais. Roedd yr Athro Reid—wel, roedd yn datgan yr amlwg, mewn gwirionedd, pan ddywedodd fod angen i'n prifysgolion symud oddi wrth ddibyniaeth ar arian yr UE a dod yn fwy cystadleuol er mwyn ennill cyllid yn y DU, a dylai fod yn achos pryder o hyd fod gennym fwlch ymchwil ac arloesedd eisoes, na all fynd yn fwy. Beth bynnag fo'r gŵyn gyfiawn ynglŷn â diffyg eglurder y DU ynghylch pethau fel y gronfa ffyniant, nid yw'n esbonio'r bwlch cyllido na'r arafwch ar Reid, ond rwy'n falch fod pethau wedi symud ymlaen yno.
Rwy'n falch hefyd ynglŷn ag ymrwymiad y Prif Weinidog na fydd unrhyw gyllid rhanbarthol yn y dyfodol yn diflannu i mewn i'r pot cyffredinol ac y bydd yn parhau'n amlflwydd o ran ei natur. Awgryma hynny y gall ei wneud ar gyfer gwasanaethau eraill hefyd, ond efallai mai rhywbeth at ddiwrnod arall yw hynny. Mae'n drueni er hynny nad oedd dim yn gynharach yn y gyllideb ar gyfer 2019-20 er gwaethaf y swm canlyniadol Barnett. Fe'm trawodd ei fod yn rhoi ychydig bach o fantais i'r Alban drosom drwy eu bod yn cael cyhoeddiadau cynnar.
Yn olaf, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £6.2 miliwn i CCAUC a £3.5 miliwn i Cymru Fyd-eang i'w helpu i ymateb i heriau Brexit, ac er ei bod yn hollol gywir mai mater iddynt hwy yw sut y byddant yn ei wario ac ar beth, buaswn i, yn sicr, yn hoffi cael ychydig bach mwy o fanylion ynglŷn â beth yn union y maent wedi'i wario arno, oherwydd yn achos CCAUC, ymddengys ei fod yn ymwneud â phrifysgolion yn cael arian ychydig bach yn gynharach nag y byddent yn ei gael. Wel, sut y maent yn mynd i'w ddefnyddio? A gyda Cymru Fyd-eang, mae'n amodol ar drafodaethau sy'n parhau â Prifysgolion Cymru, sy'n golygu efallai na fydd wedi'i wario hyd yn oed, ac eto, gallem fod yn gadael ymhen 10 diwrnod. Felly, dyna'r rhan orau o £10 miliwn y mae ei effeithiolrwydd yn parhau i fod yn dipyn o ddirgelwch, ar adeg pan ydym yn wynebu ansicrwydd, a hoffwn i o leiaf gael rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â sut y gwariwyd hwnnw. Diolch.