Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 20 Mawrth 2019.
Wel, nid wyf yn siŵr os gallwn ddweud ein bod yn croesawu dadl arall am Brexit, ond credaf ei bod yn bwysig inni ei drafod mewn perthynas ag addysg. Ond dyma ni unwaith eto, yn sôn am y mater pwysig hwn. Nid wyf am fynd i'r afael â llawer o fanylion yr adroddiad pwyllgor hwn. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom wedi darllen yr adroddiad ac wedi gwrando ar gyflwyniad Lynne Neagle fel Cadeirydd, ond ceir llawer o faterion yno i ni i fynd ar eu trywydd, beth bynnag yw ein plaid.
Mae'n nodi llwybrau clir iawn i gynnig rhywfaint o sicrwydd ac adeiladu gwytnwch yn y sector, wrth i ni wynebu'r hyn a allai fod yn gyfnod ansicr ac aflonyddgar iawn yn ein bywydau mewn perthynas ag addysg uwch yn arbennig. Rwy'n credu bod y sector prifysgolion wedi bod yn glir, felly rhaid inni ymateb yn yr un ffordd. Mae sefyllfa bresennol Brexit yn mynd i fod yn rhwystr difrifol i ddenu pobl i'r DU i astudio a gweithio yn ein sectorau addysg uwch. Mae hyn yn mynd i fod yn wir mewn agweddau eraill ar yr economi, a drafodwyd gennym yn fanwl yma, ond yn enwedig mewn addysg uwch, ac yn bersonol, rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r effeithiau tymor byr a mwy hirdymor y gallai hyn eu cael ar ein heconomi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu newidiadau ysgubol i gymorth i fyfyrwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd peth dryswch y credaf fod Suzy Davies wedi cyfeirio ato'n gynharach, ac nid wyf yn meddwl bod hynny wedi'i gyfleu i'n partneriaid Ewropeaidd yn arbennig o dda mewn perthynas â newidiadau i'r cymorth hwnnw ac yn benodol, cael gwared ar y grant ffioedd dysgu. Ond ym mhroses bresennol Brexit, mae Prydain wedi troi'n gyff gwawd rhyngwladol. Roeddwn yn y Pwyllgor Rhanbarthau a dyna'r agwedd a wynebwn yn ddyddiol; pwysleisio mai Cymraes oeddwn i ac roedd ceisio datgysylltu fy hun oddi wrth rai o'r penderfyniadau a wnaed yn arbennig o anodd. Ond mae The Washington Post wedi dweud bod llanastr Brexit, o'r Unol Daleithiau, fel gwylio gwlad yn dadlau gyda'i hun mewn ystafell wag tra'n ceisio saethu ei hun yn ei throed. Nawr, dychmygwch beth mae ein partneriaid Ewropeaidd yn teimlo, y rhai sy'n dod yma'n rheolaidd i astudio ac i gymryd rhan yn ein sefydliadau addysg uwch bywiog.
Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn argymhelliad 1 sy'n ymwneud â'r modd yr ymdrinnir â rhyddid i symud a statws mewnfudo dinasyddion 27 gwlad yr UE sy'n gweithio ac yn astudio mewn addysg uwch. Buaswn yn cefnogi hyn, gan fod yr ansicrwydd, gyda'r modd y mae rhai gwleidyddion wedi bod yn chwarae gyda'r mater hwn—yn chwarae gyda bywydau pobl fel pêl-droed wleidyddol rad—yn gwbl warthus. Ac yn rhyfedd ddigon, nid oes yr un ohonynt wedi trafferthu dod i'r Siambr i drafod yr adroddiad hwn heddiw. Mae yna bobl sydd wedi ymrwymo i'r wlad hon ac sy'n cyfrannu ati a dylai eu statws fod yn sefydlog, ac ni ddylid cwestiynu hynny.
Rwyf hefyd yn bryderus ynghylch colli partneriaethau UE posibl, megis Erasmus+ a Horizon 2020, ac nid mewn addysg uwch yn unig; rwyf wedi siarad llawer ag arweinwyr yn y sector addysg bellach na fyddai eu pobl ifanc wedi gallu mynd i lawer o'n prifddinasoedd Ewropeaidd fel arall ac sydd wedi defnyddio'r potensial hwnnw oherwydd Erasmus+—a dim ond oherwydd Erasmus+. Ni fyddent wedi cael y cyfle hwnnw fel arall, ac ni allwn danbrisio'r dylanwad hwnnw ar fywyd person ifanc, ar sut y byddant yn ffurfio cysylltiadau yn y dyfodol, sut y byddant yn meddwl am weithio dramor am y tro cyntaf. Os nad ydynt yn cael cyfle o'r fath drwy Erasmus+, efallai ein bod yn cyfyngu ar ddyheadau rhai mannau yng Nghymru lle mae dyheadau eisoes ar bwynt isel.
Mae'r Gweinidog wedi dweud yn y gorffennol fod sefydliadau addysg uwch yn ymreolaethol, ond ni chredaf y bydd hynny'n wir mewn perthynas â Brexit, a buaswn yn gobeithio y byddai'r Gweinidog yn ymrwymo i gychwyn strategaeth liniaru a chyfarfod bwrdd crwn gydag is-gangellorion i sicrhau bod sefydliadau addysg uwch yn gweithredu ar y cyd. Credaf fod arweinyddiaeth yn hyn o beth yn gwbl hanfodol. Ac os nad yw'r Gweinidog am ei wneud o bosibl, pam na all y pwyllgor ei wneud? Pam na wnewch chi wynebu'r cyfrifoldeb a ddaw yn sgil arddel y safbwyntiau hyn a chreu strategaeth yn hyn o beth?
Mewn perthynas ag argymhelliad 2, rwy'n credu bod diffyg eglurder yn perthyn i'r ymateb hwn ac ymddengys ei fod yn rhoi'r cyfrifoldeb ar y prifysgolion gyda dim ond ymrwymiad i ofyn i CCAUC ymgysylltu. Nid yw'n ymddangos mai dyma gonglfaen yr argymhelliad fel y gofynnai'r ddogfen hon amdani.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion eraill i raddau helaeth, ac edrychaf ymlaen at gael rhagor o fanylion am rai o'r rhain. Gwn y bydd pwyllgor yr economi rwy'n aelod ohono yn dyfeisio argymhellion tebyg o bosibl mewn perthynas ag adolygiad Graeme, ond hefyd amlygrwydd Cymru a'i chyfranogiad mewn cyfleoedd ariannu ymchwil ledled y DU. Rhaid inni wneud i hynny weithio.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i warantu symudedd myfyrwyr y DU yn yr UE ac i ymrwymo i weld pa gymorth y gellid ei wneud i barhau i ehangu cyfranogiad myfyrwyr rhyngwladol o blith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen; rwyf am ddatgan buddiant yn hynny o beth. Mae fy ngŵr o India, a phe na bai wedi dod yma, ni fuaswn wedi ei gyfarfod. Felly, wyddoch chi, rhaid inni annog mwy o fyfyrwyr rhyngwladol i ddod i Gymru, hyd yn oed os mai er mwyn hwyluso cysylltiadau rhyngddiwylliannol ar lefel bersonol yn unig y gwnawn hynny. [Chwerthin.] Gallwch weld bod y dadleuon hyn ar Brexit yn rhywbeth rwy'n eu mwynhau'n fawr yma heddiw.
Rwy'n cellwair, ond credaf fod hwn yn fater gwirioneddol bwysig, oherwydd po fwyaf o integreiddio rydym yn ei ganiatáu rhwng gwahanol ddiwylliannau, rhwng gwahanol wledydd, y mwyaf cyfoethog fyddwn ni fel cenedl, fel pobl, a chredaf fod hynny'n rhan annatod o'r broblem gyda Brexit. Os gwnawn elynion o'n gilydd, sut y gallwn weithio gyda'n gilydd er budd ein cenedl yn y dyfodol? Gwelsom beth a ddigwyddodd yn Seland Newydd yn ddiweddar, ond rydym wedi gweld ymateb rhyfeddol pobl Seland Newydd i ymosodiad o'r fath. Credaf mai'r broblem sydd gennym yw bod addysg uwch yn feicrocosm o gymdeithas, a rhaid inni ei drin fel ffordd inni allu cefnogi'r sector, ond hefyd sut y bydd hynny wedyn yn treiddio drwy ein bywydau mewn amryw o ffyrdd gwahanol.