Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 20 Mawrth 2019.
Roeddwn am ddweud, 'Wel, roeddwn i'n arfer dysgu myfyrwyr rhyngwladol addysg uwch, yn hanu o'r UE ac o'r tu allan i'r UE,' ac roeddwn yn mynd i ddweud am y berthynas wych oedd gennyf gyda'r myfyrwyr hynny, ond nid oeddwn am fynd gam ymhellach wedyn, yn sgil beth oedd Bethan Sayed yn ei ddweud. [Chwerthin.]
Roedd y myfyrwyr a gyfrannai at fy nghyrsiau yn dod ag amrywiaeth eang o wahanol brofiadau a chefndiroedd, a gallwch weld mewn un ystafell ddosbarth, boed yn hanu o'r Undeb Ewropeaidd neu o'r tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, y gwerth y mae'r myfyrwyr hyn yn ei gyfrannu i'n heconomi, ac wrth gwrs, hefyd—mae Prifysgolion Cymru wedi comisiynu ymchwil—maent yn dod ac yn gwario arian yma, ac mae iddynt werth uniongyrchol i'r economi rydym yn dibynnu arni.
Roeddwn am ganolbwyntio ar argymhellion 1, 2 a 7. O ran argymhelliad 1, yn yr ymateb mae'r Gweinidog wedi dweud 'derbyn mewn egwyddor' i'r hyn y cydnabu Suzy Davies ei fod yn ddull go arloesol o weithredu, a dylem weld a allwn fynd â hyn ymhellach beth bynnag—mynd ati'n rhagweithiol i fynnu pwerau gweithredol i Weinidogion Cymru dros reolau mewnfudo gofodol wahanol ar gyfer myfyrwyr a staff academaidd. Rwy'n meddwl bod honno'n ymagwedd arloesol, ac mae'n cydnabod y math o setliad datganoli yr hoffem ei weld ar y cyd yn y dyfodol, ar wahân i Michelle Brown, wrth gwrs, nad yw'n cefnogi argymhelliad 1 yn ôl ei habsenoldeb heddiw. Credaf y gallwn fod yn eithaf arloesol ynglŷn â hyn. Byddai Suzy Davies yn dweud—nid wyf yn bod yn wleidyddol er mwyn bod yn wleidyddol, ond rhaid imi nodi beth y mae'r Gweinidog yn ei ddweud yn ei hymateb i argymhelliad 1:
'Ein nod yw sicrhau nad yw economi Cymru yn cael ei heffeithio’n andwyol
gan system mudo gyfyngol a bod Prifysgolion Cymru yn gallu bodloni eu hanghenion at y dyfodol'
Wel, ie. Bellach mae gan Lywodraeth y DU y Papur Gwyn hwn a'r Bil sy'n mynd rhagddo ar fewnfudo, ond nid wyf yn rhannu optimistiaeth ein Cadeirydd y bydd yn arwain at unrhyw bolisi gwell, oherwydd rhaid imi ddweud, cyflwynodd Theresa May, fel Ysgrifennydd Cartref, arferion mewnfudo anhygoel o gyfyngol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol y tu allan i'r UE, a'r oll y gallaf feddwl yw y bydd yr arferion anhygoel o gyfyngol hynny'n cael eu gosod ar gyfer myfyrwyr yr UE yn awr. Felly, ni fyddwn yn gallu cynnig yr un cydraddoldeb i fyfyrwyr rhyngwladol o'r tu allan i'r UE ag y mae myfyrwyr o'r UE yn ei fwynhau yn awr; i'r gwrthwyneb yn llwyr. Bydd myfyrwyr o'r UE yn cael eu cyfyngu o ganlyniad i bolisi Llywodraeth y DU, a chredaf felly y dylai argymhelliad 1 ddal i sefyll, ac mae llawer o rinwedd ynddo.
O ran argymhelliad 2, roedd y Gweinidog yn derbyn mewn egwyddor ac yn dweud bod prifysgolion yn gyrff 'annibynnol ac ymreolaethol'—ac mae hynny'n wir—ac felly y byddai'n amhriodol comisiynu'r astudiaeth hon. Ond yn y maes tai, dyweder, ni fyddai hynny'n ein hatal rhag comisiynu astudiaeth. Mae cwmnïau tai yn gyrff annibynnol ac ymreolaethol, ond nid yw hynny yn ein hatal rhag comisiynu astudiaeth ynglŷn â pham nad oes tai'n cael eu hadeiladu. Nid wyf yn gweld pam na allwn gefnogi'r sector prifysgolion—byddai rhai'n dweud y sector prifysgolion mwy teilwng—fel y mae wedi'i strwythuro ar hyn o bryd, drwy gomisiynu astudiaethau ar sut y bydd canlyniadau Brexit yn effeithio ar fyfyrwyr. Buaswn yn annog y Gweinidog i ailystyried ar y sail honno, yn enwedig o ran y paramedrau a osodir arni mewn perthynas â pharhau i gymryd rhan yn Erasmus+ ar ôl Brexit.
Sy'n dod â mi at argymhelliad 7, sy'n ymwneud ag Erasmus+. Mae is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, wedi galw ar Lywodraeth y DU i greu cynllun wrth gefn amgen, ond gyda Brexit 'dim bargen' ar y gorwel, ac yn nesu fwyfwy bob dydd, mae'n ymddangos mai ofer fyddai gwneud hynny.
Gadewch inni ganolbwyntio ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Mae'r adroddiad yn rhoi'r bai yn amlwg am amharodrwydd i gymryd rhan ar y Comisiwn Ewropeaidd a'r ymateb gan y Llywodraeth ar y Comisiwn Ewropeaidd ac yn galw ar Lywodraeth y DU i neilltuo cronfeydd ar frys ar gyfer rhywbeth amgen yn lle Erasmus+. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet? Dywedodd ei bod yn aros am ymatebion gan y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi. Mae hyn yn newid bob dydd; efallai ei bod wedi cael diweddariad ers hynny. Ond a all ddweud wrthym hefyd, yn ogystal â beth sydd wedi digwydd ers iddi ysgrifennu ei llythyr atom ar 15 Mawrth, pa gysylltiad a gafodd gyda'r Comisiwn Ewropeaidd? Efallai y dylem basio heibio i Lywodraeth y DU a mynd at y Comisiwn Ewropeaidd yn uniongyrchol ar yr egwyddor o sybsidiaredd—penderfyniadau a wneir sy'n berthnasol i'r ardaloedd y maent yn effeithio fwyaf arnynt. A yw wedi ystyried honno fel proses a phenderfyniad?
Credaf fod yr adroddiad, fel y'i cyflwynir, yn un da, ac mae'n rhoi cipolwg clir iawn inni ar y problemau sy'n wynebu addysg uwch o ganlyniad i Brexit.