1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Mawrth 2019.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymchwil a datblygu yng Nghymru? OAQ53644
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau cyllid i gynorthwyo gwaith ymchwil a datblygu. Trwy rownd 2014-20 o raglenni'r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, rydym ni wedi buddsoddi mwy na £310 miliwn mewn ymchwil hyd yn hyn, ac mae hynny wedi cynorthwyo cyfanswm buddsoddiad o fwy na £560 miliwn.
Diolch. Cadarnhaodd ffigurau a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf mai Cymru oedd y lleiaf cynhyrchiol o 12 o wledydd a rhanbarthau'r DU o hyd. Mae ffigurau a gyhoeddwyd y mis hwn yn dangos bod diweithdra yng Nghymru, unwaith eto, yn uwch nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pam mae ffigurau a gyhoeddwyd y mis hwn hefyd yn dangos, er bod y DU wedi gwario £527 y pen ar ymchwil a datblygu yn 2017—y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd, gyda Lloegr yn gwario £554, yr Alban £456, Gogledd Iwerddon £371—mai dim ond £238 fesul pen o'r boblogaeth a wariodd Cymru?
Wel, rwy'n deall yr hyn y mae'r Aelod yn ei olygu—bod rhai agweddau ar ymchwil a datblygu yng Nghymru wedi dechrau o lefel sylfaen is nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond rwy'n credu y byddai wedi bod yn deg iddo nodi, yn yr adroddiad hwnnw o 2017 y cyfeiriodd ato, bod gwariant ymchwil a datblygu yng Nghymru wedi cynyddu gan 37 y cant rhwng 2011 a 2017, tra ei fod wedi cynyddu 28 y cant ledled y Deyrnas Unedig, ac, yn wir, wedi cynyddu gan 5 y cant yn 2017 yn unig. Felly, er bod llawer iawn i'w wneud o hyd, ac mae'r angen am ymchwil a datblygu yng Nghymru yn bwysig iawn—dyna pam y cyhoeddodd y Gweinidog Addysg £6.6 miliwn yn ychwanegol yn ddiweddar ar gyfer cyllid ymchwil i brifysgolion Cymru—o'r man cychwyn y dechreuasom ohono, mae'r buddsoddiad a wnaed yng Nghymru yn fwy nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Ac nid oeddwn i'n deall, Llywydd, nid wyf i'n siŵr, efallai na wnes i ddeall pwynt yr Aelod am lefelau cyflogaeth yng Nghymru yn llwyr, oherwydd mae'r ffigurau diweddaraf ar lefelau cyflogaeth yn hynod galonogol. Mae ein lefelau diweithdra ar lefel y DU erbyn hyn; mae ein lefelau anweithgarwch economaidd yn is na lefel y Deyrnas Unedig. Mae ei gydweithiwr, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn hawlio clod am yr holl lwyddiannau hyn yn rheolaidd ac rwy'n credu y byddai'n synnu'n fawr o'i glywed yn eu beirniadu nhw yn y fan yma y prynhawn yma. [Chwerthin.]
Mae Horizon 2020, wrth gwrs, yn ffynhonnell bwysig iawn o arian ymchwil i Gymru; mae rhyw £100 miliwn, dwi'n meddwl, wedi llifo i wahanol sefydliadau drwy'r rhaglen Horizon 2020. Oes, mae yna ryw fath o sicrwydd ar gyfer cynlluniau sydd wedi cael addewid o gyllid yn barod, ond onid y gwir amdani ydy pa bynnag fath o Brexit sydd ar y ffordd, dŷn ni'n gwybod erbyn hyn fod yna danseilio wedi digwydd o'r ffynhonnell yma o arian? Ydy'r Prif Weinidog yn rhannu'r pryder yna efo fi ac yn gweld bod y dystiolaeth newydd a'r ddealltwriaeth newydd o'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg ers refferendwm 2016 yn cryfhau'r ddadl dros roi hyn o flaen pobl eto mewn refferendwm ffres?
Wel, dwi'n cytuno gyda'r Aelod am Horizon 2020 a beth rydym ni wedi ei wneud yn barod yng Nghymru yma i dynnu arian i mewn i Gymru. Mae mwy na 2,800 o brosiectau ble mae pobl o Gymru wedi cymryd rhan dan Horizon 2020. Fe ges i'r cyfle i fynd i'r M-SParc ar Ynys Môn amboutu mis yn ôl, ac roeddwn i'n trafod beth sy'n mynd i ddod ar ôl Horizon 2020 gyda'r bobl oedd yn gweithio yn y ganolfan lwyddiannus yna. So, dwi'n rhannu'r pryderon mae'r Aelod wedi cyfeirio atynt, ac rydym ni'n gweithio'n galed trwy'r pethau mae'r Gweinidog yn eu gwneud, ac mae cyfarfod gyda'r Gweinidogion dros Brydain i gyd wythnos nesaf ble'r ydym ni'n trio perswadio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fuddsoddi yn y rhaglen sy'n mynd i ddod ar ôl Horizon 2020 i'w cadw nhw i mewn yn y cynllun ar lefel yr Undeb Ewropeaidd neu i greu rhywbeth arall i ni yma yn y Deyrnas Unedig.
Fel y mae'r Prif Weinidog yn gwybod, cyn dod i'r Cynulliad, roeddwn i'n gweithio fel peiriannydd ymchwil a datblygu. Prif Weinidog, oni fyddech chi'n cytuno â mi bod cysylltiadau diwydiant yn hanfodol yn y maes hwn a bod angen i ni sicrhau mwy o fuddsoddiad yn y gogledd, yn debyg i'r sefydliad gweithgynhyrchu uwch ac ymchwil yr ydym ni wedi ei weld yn llwyddo ar safle Airbus?
Rwy'n gwbl ymwybodol, yn wir, o yrfa flaenorol yr Aelod, a gwn faint yr oedd ei waith yn cael ei werthfawrogi yn y ganolfan lle'r oedd yn gweithio. Nawr, bydd, rwy'n gwybod, hefyd yn ymwybodol o'r ganolfan arbenigedd ffotoneg a fydd ar waith yn fuan o dan arweinyddiaeth prifysgol Glyndŵr, y bwriedir iddi gael ei chynnal yng nghanolfan Llanelwy mewn partneriaeth ag Aberystwyth, Bangor a Phrifysgol De Cymru. Bydd £3.7 miliwn o fuddsoddiad gan yr Undeb Ewropeaidd tuag at gyfanswm o £5.8 miliwn o fuddsoddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y ganolfan ymchwil bwysig honno, ac mae'n rhan o'n penderfyniad parhaus i wneud yn siŵr bod buddsoddiad yn y gogledd yn rhan o'r modd yr ydym ni'n ei ddefnyddio i gynllunio cyfleoedd buddsoddiad ymchwil y dyfodol.