3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:32, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Janet Finch-Saunders, am eich cyfraniad i'r ddadl. Rydych chi wedi codi llawer o bwyntiau yn yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud; hoffwn innau wneud ychydig o sylwadau wrth ymateb. Yn gyntaf oll, rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig cofio nad ni yw'r wlad gyntaf i wneud hyn, bod 54 o wledydd, rwy'n credu, wedi cyflwyno deddfwriaeth erbyn hyn i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Mae Iwerddon yn agos iawn atom, sydd wedi ei ddiddymu; mae'r Alban yn y broses o'i ddiddymu. Felly nid rhywbeth unigryw neu ryfedd yw hyn. Dilyniant naturiol ydyw o'r ddeddfwriaeth sydd eisoes wedi digwydd i ddileu taro mewn ysgolion—cosb gorfforol mewn ysgolion—i atal rhieni maeth, a dilyniant graddol yw hwn. Felly, nid wyf i'n credu ei fod yn beth mor anarferol ag yr  awgrymwch chi.

Roeddech chi'n sôn am y problemau y byddwn yn eu hwynebu—ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol, a phobl ar lawr gwlad sy'n ymdrin â'r materion hyn i gyd. Mae cefnogaeth gref i'r ddeddfwriaeth hon gan ymwelwyr iechyd, a chefnogaeth gan y mwyafrif llethol o weithwyr cymdeithasol, ac maen nhw'n awyddus i'w gweld yn dod i rym. Oherwydd maen nhw'n gwybod bod yna neges glir wedyn, pan fyddan nhw'n gweithio gyda rhieni i'w helpu gyda gwaith anodd iawn rhianta. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod mai peth anodd iawn yw bod yn rhiant. Rwyf i wedi bod yn rhiant, ar rwyf i'n fam-gu erbyn hyn, ac rwy'n gwybod pa mor anodd yw magu plant. Ac mae'n bwysig i ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol, a phawb sy'n gweithio gyda phlant, eu bod nhw'n gwbl glir o ran lle maen nhw'n sefyll. Ac wrth gael yr amddiffyniad hwn, mae'n ei gwneud yn anodd iddyn nhw, oherwydd maen nhw eisiau annog rhianta cadarnhaol—fel y gwn y mae pawb—ond mae'n anodd pan fydd gennych chi'r amddiffyniad hwn yno, sydd yn rhoi awgrym fod cosb gorfforol yn dderbyniol. Ac felly mae'r bobl hynny sy'n gweithio ar lawr gwlad i gyd yn gefnogol iawn, iawn i'r ddeddfwriaeth hon, ac, yn wir, wedi bod yn ein lobïo ni am y ddeddfwriaeth hon. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni gofio hynny.

Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud mewn gwirionedd yw cyflwyno cyfraith ar gosb gorfforol, dyna'r diffiniad—cosb gorfforol, sy'n fwy na tharo neu bwnio. Mae'n golygu llawer o bethau eraill hefyd. Mae'n gosb gorfforol. Ond rwy'n derbyn yr hyn y mae hi'n ei ddweud fod yna bethau eraill sy'n niweidiol i blant. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi ar y pwyllgor, pan fyddwn ni'n siŵr o drafod yr holl faterion eraill hyn. Oherwydd i mi, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n trafod y materion, yn y Cyfnod Pwyllgor hwn, sy'n peri gofid i bobl, a'r materion a gaiff eu codi, yn ddiamau, yn y Cyfnod Pwyllgor gan y cyhoedd ac sydd eisoes wedi dechrau o ganlyniad i gyhoeddusrwydd i'r Bil. Ond rwyf i wedi fy mhlesio'n fawr iawn gan y gefnogaeth sydd i'r Bil hyd yn hyn.