Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 26 Mawrth 2019.
Yn wahanol iawn i'r Torïaid, mi fyddwch chi'n falch o glywed bod Plaid Cymru yn falch iawn o weld y Bil yma yn cychwyn ar ei daith. Mae'n rhaid imi ychwanegu un cymal bychan i hynny: 'o'r diwedd'. Hynny yw, mae wedi cymryd amser inni gyrraedd y diwrnod yma heddiw, er bod rhywun yn gwerthfawrogi ein bod ni wedi cyrraedd yma heddiw yma. A dwi'n credu bod y Cynulliad wedi pasio mewn egwyddor bod angen Bil o'r math yn ôl yn 2001. Dŷch chi'n sôn am 2002, felly mae yna o leiaf 17 mlynedd wedi pasio ers i'r drafodaeth gychwyn, ac mae hynny'n llawer iawn rhy hir. Dwi'n deall bod yna agweddau amrywiol, ac rydyn ni wedi clywed rhai heddiw, ond dyletswydd Llywodraeth ydy arwain newid mewn ymddygiad, ac felly dwi'n falch iawn ein bod ni'n cychwyn ar y daith yma. Mae fy mhlaid i wedi bod yn greiddiol i'r ymdrech i gael y maen i'r wal efo hyn gyda chyn-Aelodau fel Jocelyn Davies a Lindsay Whittle ac eraill wedi chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol. Fe wnaethon ni gynnwys adduned yn ein maniffesto ar gyfer etholiad 2016 i gyflwyno deddfwriaeth i'r perwyl hwn. Mi fyddai pasio'r Ddeddf yn golygu y byddai gan blant yng Nghymru'r un amddiffyniad yn erbyn cosb gorfforol ag sydd gan oedolion.
Mae'n sefyllfa hurt ar hyn o bryd. Pam yn y byd bod plant, ar hyn o bryd, yn cael eu trin yn israddol i oedolion? Pam yn y byd nad oes angen amddiffyniad dros fod un unigolyn yn defnyddio grym corfforol yn erbyn unigolyn arall, ond bod amddiffyniad dros fod unigolyn yn defnyddio grym corfforol yn erbyn plentyn? Un o'r arwyddion cliriaf o gymdeithas wâr ydy'r ffordd dŷn ni'n trin grwpiau bregus o fewn ein cymdeithas. Byddai pasio'r Bil yma yn cynnal hawliau plant ac yn sicrhau bod Cymru'n cydymffurfio'n llawn ag erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sydd, wrth gwrs, yn gofyn bod y wladwriaeth yn cymryd pob cam angenrheidiol a phriodol i ddiogelu plant.
Mi hoffwn i fynd ar ôl dau fater—dau gwestiwn, os leiciwch chi—pnawn yma. Mae yna dros 50 o wledydd yn y byd wedi dileu'r amddiffyniad o gosb gorfforol, a fy nghwestiwn cyntaf ichi heddiw felly ydy: pa wersi sydd gan Gymru i'w dysgu o brofiadau'r gwledydd hynny, nid yn unig Sweden, Iwerddon, yr Almaen, y Ffindir, Seland Newydd, ond llu o wledydd eraill hefyd? Gwersi cadarnhaol y gallen ni elwa o wybod amdanyn nhw, ond hefyd gwersi am sut y gallwn ni gyflwyno'r ddeddfwriaeth mewn ffordd fwy effeithiol.
Mae fy ail gwestiwn i yn ymwneud â rhianta cadarnhaol. Mae tystiolaeth gynyddol ar gael sy'n dangos nad ydy cosb gorfforol yn effeithiol a'i bod hi yn niweidio plant yn gorfforol a hefyd yn emosiynol. Mae yna fwy a mwy o rieni yn cydnabod hynny, ac mae agweddau at arferion magu plant yn sicr yn newid. Ond dydy hi ddim bob tro yn hawdd gwybod pa dechnegau sydd orau i'w defnyddio er mwyn dysgu plant bod ffiniau ar gael—ffiniau nad ydyn nhw fod i'w croesi. Mae'n rhaid imi ddweud, yn fy mhrofiad i fel rhiant sengl i bedwar o blant bach, a dim ond chwe blynedd rhyngddyn nhw, rhwng yr hynaf a'r ieuengaf, dwi'n gwybod bod rhianta yn gofyn am bob math o sgiliau, a sgiliau sydd angen eu dysgu, yn aml iawn. Bod yn rhiant yw un o’r swyddi gorau yn y byd, bod yn rhiant yw un o’r swyddi pwysicaf yn y byd, ond mae bod yn rhiant hefyd yn gallu bod yn swydd heriol iawn. Felly, dwi’n credu, law yn llaw â chyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd yma rydyn ni’n ei chroesawu’n fawr ar y meinciau yma, mae angen rhaglenni rhianta cadarnhaol a heini ar draws Cymru.
Felly, fy ail gwestiwn ydy: fydd yna ddigon o adnoddau yn gallu cael eu neilltuo ar gyfer rhaglenni o’r math yna? Dwi ddim yn credu ei fod o’n ddigon i ymestyn y ddarpariaeth bresennol sy’n digwydd trwy gynlluniau Dechrau’n Deg ac ati. Dwi wedi gweld rhai o’r rheini ar waith, ac maen nhw’n gallu gweithio’n ardderchog, ond dŷn nhw ddim yn cyrraedd pawb ac mae angen cyrraedd pawb. Felly, a oes yna adnoddau i wneud hynny? Dwi’n edrych ymlaen at y gwaith o graffu’r Bil hwn rŵan, fel aelod o’r pwyllgor plant a phobl ifanc, dros yr wythnosau nesaf. Diolch.