Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 27 Mawrth 2019.
Cefais gopi o'r ohebiaeth, a ddoe, rwy'n credu, ysgrifennais yn ôl at y dyn a luniodd y llythyr gwreiddiol. Nodais y pryderon; ni fuaswn yn dweud fy mod yn eu rhannu. Fodd bynnag, pan fydd rhywun yn ysgrifennu ataf yn nodi pryderon o'r fath, rwyf bob amser yn gofyn i fy swyddogion edrych arnynt ar fy rhan i ddechrau, felly byddant yn trafod y pwyntiau a gododd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac yn sicr, os oes unrhyw bryderon y credaf fod angen imi fynd i'r afael â hwy, byddaf yn eu dwyn i sylw cadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn fy nghyfarfodydd misol rheolaidd. Yn amlwg, Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n rheoli ein gwarchodfeydd natur cenedlaethol. Unwaith eto, rwy'n credu eu bod yn dryloyw iawn o ran sut y maent yn eu rheoli. Credaf hefyd eu bod yn nodi'n glir yn eu strategaethau sut y gallant wella'r gwaith o'u rheoli. Felly, byddaf yn cadw llygad agos iawn ar hyn, ac os teimlaf reidrwydd i roi camau ar waith, byddaf yn gwneud hynny.