1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 27 Mawrth 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwarchodfeydd natur cenedlaethol yng Nghymru? OAQ53653
Diolch. Fel y nodir yn y cynllun gweithredu ar adfer natur, mae ein gwarchodfeydd natur cenedlaethol yn allweddol i'n cyfres o safleoedd gwarchodedig ar gyfer cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â bioamrywiaeth. Maent yn allweddol i gydnerthedd rhwydweithiau ecolegol, diogelu rhywogaethau a chynefinoedd, a darparu manteision enfawr i'n lles yng Nghymru.
Diolch ichi am eich ateb, Weinidog, a nodaf y gair allweddol a ddefnyddioch—'craidd' i'ch polisïau. Ond efallai fod llawer o'r Aelodau—yr holl Aelodau rwy'n credu—wedi derbyn y llythyr gan gyn-gyflogeion sydd wedi ymddeol o Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chyrff eraill sydd â diddordeb yn y maes penodol hwn, sy'n tynnu sylw at yr hyn y credant sy'n ddiffyg hyder yn y modd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli ein gwarchodfeydd natur cenedlaethol yng Nghymru, ac yn cwestiynu'r hyfywedd yn y dyfodol oni bai bod yna newid cyfeiriad. A ydych yn rhannu'r pryderon y mae'r cyn-aelodau hyn o staff uwch sydd wedi ymddeol o sefydliadau natur amrywiol wedi tynnu sylw atynt? Credaf fod y Gweinidog wedi cael copi o'r llythyr. Ac os ydych yn rhannu'r pryderon hynny, a fyddwch yn eu dwyn i sylw Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol, ac a oes gennych unrhyw adborth y gallwch ei roi inni fel Aelodau, y gallwn gael hyder y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i feirniadaeth o'r fath?
Cefais gopi o'r ohebiaeth, a ddoe, rwy'n credu, ysgrifennais yn ôl at y dyn a luniodd y llythyr gwreiddiol. Nodais y pryderon; ni fuaswn yn dweud fy mod yn eu rhannu. Fodd bynnag, pan fydd rhywun yn ysgrifennu ataf yn nodi pryderon o'r fath, rwyf bob amser yn gofyn i fy swyddogion edrych arnynt ar fy rhan i ddechrau, felly byddant yn trafod y pwyntiau a gododd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac yn sicr, os oes unrhyw bryderon y credaf fod angen imi fynd i'r afael â hwy, byddaf yn eu dwyn i sylw cadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn fy nghyfarfodydd misol rheolaidd. Yn amlwg, Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n rheoli ein gwarchodfeydd natur cenedlaethol. Unwaith eto, rwy'n credu eu bod yn dryloyw iawn o ran sut y maent yn eu rheoli. Credaf hefyd eu bod yn nodi'n glir yn eu strategaethau sut y gallant wella'r gwaith o'u rheoli. Felly, byddaf yn cadw llygad agos iawn ar hyn, ac os teimlaf reidrwydd i roi camau ar waith, byddaf yn gwneud hynny.