Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch ichi am eich ateb, Weinidog, a nodaf y gair allweddol a ddefnyddioch—'craidd' i'ch polisïau. Ond efallai fod llawer o'r Aelodau—yr holl Aelodau rwy'n credu—wedi derbyn y llythyr gan gyn-gyflogeion sydd wedi ymddeol o Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chyrff eraill sydd â diddordeb yn y maes penodol hwn, sy'n tynnu sylw at yr hyn y credant sy'n ddiffyg hyder yn y modd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli ein gwarchodfeydd natur cenedlaethol yng Nghymru, ac yn cwestiynu'r hyfywedd yn y dyfodol oni bai bod yna newid cyfeiriad. A ydych yn rhannu'r pryderon y mae'r cyn-aelodau hyn o staff uwch sydd wedi ymddeol o sefydliadau natur amrywiol wedi tynnu sylw atynt? Credaf fod y Gweinidog wedi cael copi o'r llythyr. Ac os ydych yn rhannu'r pryderon hynny, a fyddwch yn eu dwyn i sylw Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol, ac a oes gennych unrhyw adborth y gallwch ei roi inni fel Aelodau, y gallwn gael hyder y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i feirniadaeth o'r fath?