Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 27 Mawrth 2019.
Weinidog, gwyddom y bydd cynllun amgylcheddol 25 mlynedd yn Lloegr, ac mae'r Bil amgylchedd drafft yn cynnwys cynigion ar gyfer swyddfa diogelu'r amgylchedd, rhywbeth y byddai gan ddinasyddion, mae'n debyg, hawl i’w gael—ac efallai fod hyn yn cyfateb i'r Comisiwn yn dadlau achos y dinesydd, sef pam, wrth gwrs, fod y math hwnnw o fynediad cyflym iawn at wasanaethau cyfreithiol mor effeithiol. Rydych wedi penderfynu ar ymgynghoriad, a tybed—ond rydych wedi dweud nad ydych, ar hyn o bryd, yn ffafrio dull gweithredu Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, a tybed a oes angen i chi ailfeddwl am y cwestiwn hwn ynglŷn â chorff gorfodi sy'n gallu mynd i’r afael â chwynion a gyflwynir iddo gan y dinesydd, yn hytrach na rhoi cyngor iddynt ynglŷn â dwyn achos llys. Nid yw'n hawdd i'r dinesydd wneud hynny mewn gwirionedd, ac mae sawl corff wedi dweud wrthym mai dyma sy'n allweddol i gadernid rheoliadau cyfredol yr UE.