Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 27 Mawrth 2019.
Yn amlwg, bydd yr ymgynghoriad yn llywio’r polisi yn y dyfodol. Credaf ei bod hefyd yn bwysig cydnabod bod gennym fwlch llywodraethu gwahanol i Loegr. Felly, mae gennym Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwyf wedi cael rhywfaint o drafodaethau gyda Gweinidogion Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y mater hwn, ac yn sicr, os ydym o’r farn fod angen i ni edrych ar hyn ar ôl yr ymgynghoriad, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny. Mae'n hanfodol, fel y dywedais yn fy ateb i Huw Irranca-Davies, nad ydym yn gweld gwanhau o'r fath, nid yn unig yn ein safonau, ond yn ein hawliau hefyd.