Hybu Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:18, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog a minnau'n fwy na pharod i'w goleuo ynghylch yr adnoddau a'r hyn y dylent fod yn ei wneud. Felly, os hoffech ysgrifennu ataf ynglŷn â'r awdurdodau penodol ac amlinellu beth yw'r pryderon, gan y gwyddom ei bod yn anhygoel o bwysig, os ydym am i'n cynghorau a'n cymunedau adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethir ganddynt, eu bod yn gwneud pethau'n iawn yn ymarferol yn ogystal ag o ran polisi.