Hybu Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:19, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Cwestiwn da iawn, ac mae'n hanfodol fod derbyn a hyrwyddo amrywiaeth yn ganolog i lywodraeth leol yng Nghymru. Fodd bynnag, ceir rhwystr mawr i hyn, a chredaf fod ein Prif Weinidog yn ei swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol wedi ceisio mynd i'r afael ag ef: y ffaith na all pobl sy'n gweithio i awdurdodau lleol sefyll i gael eu hethol yn gynghorwyr sir. Felly, mae gennym etholwyr sy'n athrawon, cogyddion ysgol, hyfforddwyr nofio—mae llawer iawn o rolau bellach mewn awdurdod lleol sy'n eu hatal rhag sefyll etholiad awdurdod lleol. A byddai angen iddynt ymddiswyddo o'u gwaith er mwyn gwneud hynny, wyddoch chi—. [Torri ar draws.]