Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 27 Mawrth 2019.
Rwy'n falch iawn o siarad yng ngham olaf y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth heddiw. Fel y dywedais ar y dechrau, yng Ngham 1, un cam yn unig yw'r Bil hwn yn yr ymdrech i adeiladu marchnad dai sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Yn wir, mae’n annheg fod tenantiaid ledled y wlad yn wynebu costau annisgwyl ac afresymol, a dyna pam fy mod yn hapus y byddwn yn gwahardd y ffioedd hynny, ynghyd â mesurau eraill i wneud rhentu'n decach ac yn fwy tryloyw.
I ni’r Ceidwadwyr Cymreig, agwedd bwysicaf y Bil hwn oedd yr angen i gydbwyso a diogelu hawliau landlordiaid a thenantiaid. Mae hynny wedi llywio fy ymagwedd wrth ddrafftio gwelliannau yng Nghamau 2 a 3, ac rwy'n falch iawn fod rhai o fy ngwelliannau wedi cael eu derbyn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mae hynny’n cynnwys, yn gyntaf, gwelliant sy'n galluogi Rhentu Doeth Cymru i gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig—gwelliant a gyflwynais yng Ngham 2, ond a ddiwygiwyd gan y Llywodraeth a’i gyflwyno ganddynt yng Ngham 3—ac yn ail, fy ngwelliant sy'n atal y landlord rhag rhoi hysbysiad cymryd meddiant i'r tenant pan fydd tâl gwaharddedig wedi’i godi a heb ei ad-dalu wedyn. Derbyniwyd y gwelliant hwn yng Ngham 3 yr wythnos diwethaf, yn dilyn cydweithredu agos â'r Gweinidog a'i thîm, a diolch i'r Gweinidog am weithio gyda mi yn y modd hwnnw. Roedd yna welliannau eraill, Lywydd, y teimlwn y byddent wedi cryfhau'r Bil na chawsant eu derbyn, ond rwy’n fodlon â thri chwarter y dorth yn yr achos hwn.
I bob un o'r landlordiaid a'r tenantiaid sy'n cydweithredu’n gytûn, rwy'n dweud wrthynt heddiw nad oes ganddynt unrhyw beth i’w ofni yn y ddeddfwriaeth hon. Bydd yn eu helpu yn y pen draw, oherwydd, ynghyd â darnau eraill o ddeddfwriaeth a basiwyd yn y Cynulliad hwn ac sydd wedi cryfhau'r maes hwn, byddwn yn cael gwared ar y rheini sy'n cyflawni arferion diegwyddor, a thrwy hynny, byddwn yn cryfhau'r farchnad, ac yn ei gwneud yn fwy ffafriol i landlordiaid ac asiantiaid cyfrifol. A chredaf fod hynny’n rhan hanfodol o'r hyn a wnawn.
Dros y degawd diwethaf, mae'r sector rhentu preifat wedi tyfu o ran niferoedd gwirioneddol ac o ran cymesuredd, yn bennaf ar draul perchen-feddiannaeth. Os bydd y duedd yn parhau, y sector rhentu preifat fydd yr ail fath mwyaf cyffredin o gartref ar ôl perchentyaeth. Rhagwelir y bydd yn cyrraedd 20 y cant o gyfanswm y stoc dai erbyn 2020, y flwyddyn nesaf. Mae'n farchnad sydd yma i aros.
Roedd yn bwysig inni gael y ddeddfwriaeth hon yn iawn gan fod y sector yn dod yn gynyddol bwysig wrth ddiwallu'r angen am dai, ac rydym wedi bod mewn sefyllfa ffodus, o ran profi a methu a dysgu gan eraill, gan fod Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hon eisoes, ac mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi ceisio’i adlewyrchu yn fy ymagwedd ac yn fy ngwaith craffu. Er tegwch, credaf hefyd fod y Llywodraeth wedi bod yn gwbl ymwybodol o hynny hefyd.
I gloi, Lywydd, rwy'n fodlon fod y Bil hwn yn cryfhau hawliau pawb sy'n gysylltiedig â'r sector ac yn helpu i ailadeiladu'r hyder rhwng landlord a thenant. Rwy’n annog yr holl Aelodau i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon ar ei cham olaf heddiw.