Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 27 Mawrth 2019.
Yn y lle cyntaf, credaf mai'r peth pwysig fydd astudio'r dyfarniad sydd ger ein bron heddiw, ac fel y dywedais, rydym wedi sicrhau ei fod ar gael i'r Aelodau yn y llyfrgell er mwyn sicrhau y gall pob Aelod ei astudio hefyd. Ond yn sicr bydd y camau nesaf yn cynnwys trafod gyda'r teulu i gychwyn o ran penderfynu ar y ffordd orau ymlaen. Yn amlwg, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi'r wybodaeth lawnaf y gallwn ei rhoi i'r Aelodau. Nid ydym mewn sefyllfa i ddweud llawer mwy heddiw, Lywydd, gan mai heddiw'n unig y cawsom y dyfarniad, felly bydd angen inni ei astudio a phenderfynu ar y camau nesaf.