Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 2 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:03, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, oes, mae llawer yn yr ateb yna y byddwn yn ei groesawu. Mae tanau glaswellt, yn amlwg, yn bla. Maen nhw'n gallu dinistrio cynefinoedd, maen nhw'n lladd da byw ac maen nhw hyd yn oed yn bygwth adeiladau a busnesau. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am yr ochr addysgol mewn ateb cynharach, yr wyf i'n ei groesawu, fel y dywedais. A oes angen strategaeth drawsbynciol, yn mynd ar draws y gwahanol bortffolios gweinidogol, er mwyn ymdrin â'r broblem hon?