Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 2 Ebrill 2019.
Wel, rwy'n berffaith hapus i ystyried hynny, ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, bod hwn yn un o'r meysydd lle mae'r llwyddiant yr ydym ni wedi ei weld yn awgrymu bod y gwaith hwnnw eisoes yn cael ei wneud yn llwyddiannus. Gwn fod y ffordd y mae awdurdodau lleol, yn ogystal â buddiannau addysg, yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân a gwasanaethau brys eraill wedi bod wrth wraidd y ffordd yr ydym ni wedi mynd i'r afael â cheisio ymdrin â thanau glaswellt ac enghreifftiau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys llosgi bwriadol sy'n digwydd yng Nghymru. Rwy'n credu, Llywydd, ei fod yn glod i'r ffordd y mae awdurdodau eisoes yn gweithio ar draws ffiniau a chyda Llywodraeth Cymru ein bod ni wedi gweld y llwyddiant yr ydym ni wedi ei weld.