1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Ebrill 2019.
4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? OAQ53737
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Ym mis Mawrth, lansiodd Llywodraeth Cymru ein cynllun datgarboneiddio statudol Llywodraeth gyfan cyntaf. Mae'n cyflwyno 100 o bolisïau a chynigion, ym mhob sector o'n heconomi, i fodloni ein cyllideb garbon bresennol ac i bennu llwybr datgarboneiddio tymor hwy i Gymru.
Byddai llawer yn cytuno â'r hyn y mae pobl ifanc yn ei ddweud wrthym, mai'r newid yn yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n ein hwynebu ar ein planed. Mae gan Gymru ran fach ond pwysig iawn i'w chwarae yn hyn. Mae'r ffaith ein bod ni'n methu ein targedau lleihau carbon yn dangos nad yw Cymru ar y trywydd iawn pan y gallem ni ac y dylem ni fod yn ysgogi'r agenda ac yn creu esiampl i'r byd ei dilyn.
Wrth siarad yn lansiad cynllun datgarboneiddio eich Llywodraeth chi y mis diwethaf, dywedodd cyn-Weinidog yr amgylchedd, Jane Davidson, bod cyrff anllywodraethol amgylcheddol yn cael eu heithrio o'r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru. Pan yr oedd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn weithredol, roedd gan sefydliadau anllywodraethol a phobl ifanc sedd wrth y bwrdd. Nawr bod y comisiwn ar y newid yn yr hinsawdd wedi cael ei ddiddymu a'i ddisodli gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, mae perygl gwirioneddol y bydd arbenigedd cymdeithas sifil a lleisiau pobl ifanc yn cael eu cloi allan o'r ystafell. A ydych chi'n rhannu fy mhryderon i a barn Jane Davidson bod problem fel newid yn yr hinsawdd yn haeddu cael pawb yn cyfrannu at y gwaith, ac os felly, sut gwnaiff eich Llywodraeth chi sicrhau y bydd lleisiau cymdeithas sifil yn cael eu clywed?
Wel, diolchaf i'r Aelod am hynna, oherwydd rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r pwynt y mae hi'n ei wneud bod argyfwng y newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth y gellir mynd i'r afael ag ef dim ond drwy bob un unigolyn a phob un sefydliad yn ymrwymo i chwarae eu rhan i'w frwydro. Roeddwn i'n bresennol yn y digwyddiad y cyfeiriodd hi ato. Ni chlywais i Jane Davidson yn dweud hynny, ond doeddwn i ddim yno ar gyfer y diwrnod cyfan ychwaith. Roedd comisiynydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn annerch y gynhadledd honno. Yn wirioneddol bwysig, i gymryd y pwynt cyntaf y mae Leanne Wood wedi ei wneud, roedd gan bobl ifanc ran bwysig iawn i'w chwarae yn y gynhadledd honno, o ran paratoi ar ei chyfer, cynllunio ar ei chyfer a siarad yn uniongyrchol â hi. Roedd yn fraint fawr i mi, ar ôl gwneud fy nghyfraniad, cael treulio mwy o amser yn y gynhadledd wedyn yn cyfarfod yn benodol â'r grwpiau o bobl ifanc a oedd wedi cymryd rhan yn y gwaith o baratoi ar gyfer y gynhadledd ei hun. Cyfarfûm â llu o bobl ifanc a oedd â straeon gwych i'w hadrodd, pethau yr oedden nhw eu hunain yn ei wneud yn yr ysgolion a'r colegau yr oeddent yn perthyn iddyn nhw, gyda syniadau yr oedden nhw eisiau eu cynnig i eraill, gyda heriau i'r rhai hynny ohonom ni sydd, fel y bydden nhw'n ei ystyried heb amheuaeth, wedi helpu i greu'r etifeddiaeth o broblemau y bydd yn rhaid iddyn nhw weithio drwyddynt yn eu bywydau, ac mae'r cyfraniad sydd ganddyn nhw i'w wneud at lunio'r agenda hon yn bwysig iawn yn wir.
Rwyf i'n gwbl sicr bod comisiynydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn gwneud ymdrechion glew iawn i wneud yn siŵr ei bod hi'n ymgysylltu â phobl ifanc, i fod yn sicr nad yw eu lleisiau yn cael eu heithrio o'r ffordd y mae hi'n llunio'r cyngor y mae'n ei roi i ni. Gwn pa mor brysur yw hi yn ymgysylltu â chymdeithas ddinesig o bob math ledled Cymru. Byddwn i'n siomedig iawn pe byddai'r agenda bwysig hon yn eithrio lleisiau pwysig yng Nghymru mewn unrhyw ffordd. Rwy'n hapus iawn i gael sgwrs gyda'r comisiynydd i wneud yn siŵr ei bod yn ymwybodol o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi y prynhawn yma.
Prif Weinidog, roedd eich cynllun yn cynnwys 100 o bwyntiau gweithredu ac yn amlwg roedd yn dod â'r holl bwyntiau gweithredu at ei gilydd am y tro cyntaf, rwy'n credu, mewn un ddogfen. Un o'r targedau yw cynyddu plannu coed ac mae pwyllgor yr amgylchedd yn y fan yma wedi ystyried hynny. Rydych chi wedi methu hwnnw o bell ffordd, a phan edrychwch chi ar Cyfoeth Naturiol Cymru, mae ganddyn nhw dros 6,000 hectar a mwy o dir coedwigaeth heb ei blannu. A allwch chi wneud ymrwymiad heddiw, gan fy mod i'n sylweddoli bod rhai o'r pethau eraill yn y cynllun yn llawer mwy hirdymor, ond mae gennych chi'r holl ysgogiadau i ymgymryd â hyn—a allwch chi wneud ymrwymiad heddiw y bydd eich rhaglen plannu coed yn ôl yn cadw at yr amserlen unwaith eto erbyn diwedd y flwyddyn hon ac y byddwn ni'n cyrraedd y targedau y mae eich Llywodraeth wedi eu pennu iddi ei hun, ac yn arbennig y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cyfraddau ailblannu yn ôl i'r safon?
Rwy'n awyddus iawn yn wir y dylai hynny ddigwydd. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am fethu â chyrraedd y targedau yn ddiweddar, ac rwy'n benderfynol iawn y byddwn ni'n eu cyrraedd yn y dyfodol. Lansiwyd rownd newydd o gyllid cynllun datblygu gwledig ar gyfer creu coetiroedd Glastir ddoe, gyda datganiadau o ddiddordeb i gael eu cyflwyno erbyn 10 Mai. Gwn fod y Gweinidog yn gwylio'r datblygiad hwnnw yn agos iawn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cyrraedd y targedau hynny. Gwneuthum ymrwymiad yn ystod yr etholiad arweinyddiaeth yn fy mhlaid fy hun i greu coedwig genedlaethol newydd yma yng Nghymru, a chredaf fod hwnnw'n syniad a fydd yn ein helpu ni i wneud yn siŵr nid yn unig ein bod ni'n cyrraedd y targedau sydd gennym ni nawr ar gyfer plannu coed ond ein bod ni'n gallu gwneud mwy fyth i nodi'r cyfraniad y gall mwy o blannu coed yng Nghymru ei wneud, at yr agenda carbon a newid yn yr hinsawdd ond at agendâu eraill hefyd.