1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Ebrill 2019.
3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael i gryfhau atebolrwydd prifysgolion? OAQ53719
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae prifysgolion yn gyrff ymreolaethol y mae eu cynghorau llywodraethu yn atebol amdanynt. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn rheoleiddio'r sector ar ran Gweinidogion Cymru, ac mae trafodaethau ar y gweill i nodi ffyrdd y gellir cryfhau ei ganllawiau i gyrff llywodraethu.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, a bydd gennyf ddiddordeb gweld y canllawiau cryfach. Fodd bynnag, bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod problemau yn y sector nawr y mae angen mynd i'r afael â nhw. Rwy'n cyfeirio'n arbennig, wrth gwrs, at y sefyllfa yn Abertawe, y gwn ei fod yn gwbl ymwybodol ohoni, ac rwy'n derbyn yn llwyr pwynt y Prif Weinidog bod prifysgolion yn ymreolaethol ac, wrth gwrs, byddai pob un ohonom ni'n dymuno iddyn nhw barhau felly. Ond maen nhw, serch hynny, yn cael symiau sylweddol iawn o arian cyhoeddus, ac maen nhw'n cyflawni swyddogaeth a phwysigrwydd economaidd, yn enwedig mewn cymunedau tlotach, sy'n gorbwyso hynny.
Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod CCAUC wedi codi pryderon yn y gorffennol ynghylch gadernid trefniadau llywodraethu ym Mhrifysgol Abertawe, a gofynnaf am sicrwydd y Prif Weinidog heddiw y bydd y Gweinidog addysg yn gweithio gyda CCAUC i fynd i'r afael ag unrhyw un o'r gwendidau hynny. Yn enwedig, mae'r sefyllfa bresennol, lle mae gennym ni aelodau staff uwch sydd wedi cael eu gwahardd am fisoedd ar fisoedd heb ddilyn unrhyw drefn briodol, yn dystiolaeth o sefydliad sydd angen mwy o gymorth nag y mae'n ymddangos ei fod yn ei gael ar hyn o bryd. Rwy'n sylweddoli efallai na fydd y Prif Weinidog yn teimlo ei fod yn gallu rhoi ateb cyhoeddus heddiw, ond rwy'n gobeithio, drwy CCAUC, ei fod ef a'r Gweinidog addysg yn sicrhau y gellir dirwyn y prosesau parhaus hynny i ben cyn gynted â phosibl, er lles y sefydliad a'r unigolion dan sylw.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn. Hoffwn ymateb i'r pwyntiau cyffredinol pwysig y mae hi'n eu gwneud, ac rwy'n deall cryfder ei theimladau a'r wybodaeth sydd ganddi o ran y mater penodol y mae wedi ei godi. Ond o ran y pwynt cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu darpariaeth addysg uwch ac mae CCAUC yn monitro sefydliadau. Ac mae'r rhaniad hwnnw o ran cyfrifoldebau yno er mwyn sicrhau bod ymreolaeth y sefydliadau hynny yn cael ei barchu am y rhesymau a gydnabuwyd gan Helen Mary Jones yn ei chwestiwn atodol.
Ond oherwydd pryderon am ansawdd y ddarpariaeth ac uniondeb academaidd y ceisiodd y Gweinidog sicrwydd ganddyn nhw yn ei llythyr cylch gwaith i CCAUC ar gyfer 2019-20 bod sefydliadau yn cymryd y materion hyn o ddifrif, a bod mesurau cryfach yn cael eu rhoi ar waith. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau gyda CCAUC ynghylch sut i wneud yn siŵr bod mesurau adolygu risg cryfach ar waith, ac y gallwn gryfhau'r canllawiau y mae CCAUC yn eu darparu i'r cyrff llywodraethu hynny. Maen nhw, fel y dywedodd yr Aelod, yn gwario symiau sylweddol iawn o arian cyhoeddus. Maen nhw'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n cael effaith uniongyrchol ar economïau lleol a rhagolygon poblogaethau lleol, ac mae'n hollol iawn a phriodol mai'r safonau y mae'r cyrff llywodraethu hynny'n ymateb iddyn nhw yw'r rhai y byddem ni'n disgwyl eu gweld, ac y gallwn fod yn ffyddiog eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd a fyddai'n gwrthsefyll archwiliad.
Prif Weinidog, byddai'n anghwrtais i ofyn yn y fan yma beth yw eich graddfa gyflog bresennol, ond credaf ei bod yn deg dweud pe byddech chi'n is-ganghellor chi fyddai'r un â'r cyflog isaf yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hyn yn fesuriad o ryw fath. Pan fo cyflog uwch swyddogion mewn prifysgolion yn sylweddol uwch na'r hyn yr ydych chi'n ei gael, yna maen nhw angen cyfiawnhad eglur dros hynny, ac mae angen iddyn nhw fod yn atebol. Maen nhw'n swyddi anodd, a gall hyn fod yn briodol weithiau, ond yn sicr mae angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o'r gymhareb cyflog uchaf i gyflog canolrifol yn eu sefydliadau.
Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae David Melding wedi ei ddweud. Rwyf i, yn bersonol, yn gwbl argyhoeddedig bod cymhareb safonol o gyflog uchaf i ganolrifol yn ffordd o ddangos i bawb sy'n gweithio yn y sefydliad hwnnw y gwerth y mae'r sefydliadau hynny yn ei roi ar y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud. A phan fo gennych chi bobl ar frig sefydliad sy'n gwneud, rwy'n cytuno, swyddi anodd a heriol, ond pan fo'r bobl hynny mewn sefyllfa i weld eu cyflog eu hunain yn ymestyn ymhellach o'r tâl sydd ar gael i bawb arall sy'n gwneud cyfraniad i'r sefydliad hwnnw, pa bynnag ran y maen nhw'n ei chwarae ynddo, yna nid wyf i'n credu bod hynny'n anfon neges ddefnyddiol i bawb arall bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi a bod eu cyfraniad yr un mor bwysig yn ei ffordd ei hun â'r cyfraniad a wneir gan unrhyw berson arall sy'n gweithio i'r sefydliad.