Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 2 Ebrill 2019.
Mae ein hymgynghoriad ar egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol, a gyhoeddwyd ar 18 Mawrth, yn ceisio barn rhanddeiliaid ar weithdrefnau cwynion dinasyddion i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar weithredu deddfwriaeth amgylcheddol. Mae'r gwaith hwn yn parhau a, chan weithio gyda rhanddeiliaid, byddwn yn bwriadu sicrhau trefniadau llywodraethu cydlynol ac effeithiol ar gyfer dinasyddion Cymru.