Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 2 Ebrill 2019.
Diolchaf i'r Gweinidog am yr ateb yna. Rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi mai un o'r amddiffyniadau hanfodol a ddarperir i ddinasyddion yr UE o dan y trefniadau presennol yw'r gallu i herio Llywodraethau yn gyfreithiol, fel yr ydym ni wedi ei weld gyda dyfarniadau cyfreithiol nodedig fel y rhai llygredd aer a gyflwynwyd dro ar ôl tro gan Client Earth. O ran sefyllfa 'dim cytundeb', mae tîm cyfreithiol Client Earth eisoes wedi rhybuddio bod honiadau Llywodraeth y DU y bydd amddiffyniadau'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu cynnal yn llawn ar ôl i Brydain adael yr UE yn ffug, a rhybuddiodd mai 'dim cytundeb' yw'r sefyllfa waethaf bosibl i amgylchedd naturiol, hinsawdd ac ansawdd aer Prydain. Ond hoffwn ofyn i'r Gweinidog geisio rhoi ateb mor eglur â phosibl i mi ar hyn o bryd ynghylch pa amddiffyniadau fydd yn parhau i'r dinesydd allu herio Llywodraethau yn gyfreithiol o dan wahanol fathau o 'Brexit meddal' fel y'i gelwir, ac, yn wir, cytundeb Theresa May ei hun os bydd yn dychwelyd. A fydd hawliau'r dinesydd i herio Llywodraethau yn cael eu gwanhau neu a fyddan nhw'n cael eu cynnal o dan y gwahanol sefyllfaoedd hyn? Os mai'r ateb yw nad ydym ni'n gwybod hynny eto heddiw neu ei fod yn rhy gymhleth, rwy'n credu y byddwn i ac Aelodau eraill yn ddiolchgar iawn pe gallai'r Gweinidog ysgrifennu atom pan fydd hynny'n eglur.