2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru ar 2 Ebrill 2019.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar gydgyfnerthu'r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn ymgorffori hawliau dinasyddion Cymru i herio penderfyniadau amgylcheddol ar ôl Brexit? OAQ53692
Mae ein hymgynghoriad ar egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol, a gyhoeddwyd ar 18 Mawrth, yn ceisio barn rhanddeiliaid ar weithdrefnau cwynion dinasyddion i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar weithredu deddfwriaeth amgylcheddol. Mae'r gwaith hwn yn parhau a, chan weithio gyda rhanddeiliaid, byddwn yn bwriadu sicrhau trefniadau llywodraethu cydlynol ac effeithiol ar gyfer dinasyddion Cymru.
Diolchaf i'r Gweinidog am yr ateb yna. Rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi mai un o'r amddiffyniadau hanfodol a ddarperir i ddinasyddion yr UE o dan y trefniadau presennol yw'r gallu i herio Llywodraethau yn gyfreithiol, fel yr ydym ni wedi ei weld gyda dyfarniadau cyfreithiol nodedig fel y rhai llygredd aer a gyflwynwyd dro ar ôl tro gan Client Earth. O ran sefyllfa 'dim cytundeb', mae tîm cyfreithiol Client Earth eisoes wedi rhybuddio bod honiadau Llywodraeth y DU y bydd amddiffyniadau'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu cynnal yn llawn ar ôl i Brydain adael yr UE yn ffug, a rhybuddiodd mai 'dim cytundeb' yw'r sefyllfa waethaf bosibl i amgylchedd naturiol, hinsawdd ac ansawdd aer Prydain. Ond hoffwn ofyn i'r Gweinidog geisio rhoi ateb mor eglur â phosibl i mi ar hyn o bryd ynghylch pa amddiffyniadau fydd yn parhau i'r dinesydd allu herio Llywodraethau yn gyfreithiol o dan wahanol fathau o 'Brexit meddal' fel y'i gelwir, ac, yn wir, cytundeb Theresa May ei hun os bydd yn dychwelyd. A fydd hawliau'r dinesydd i herio Llywodraethau yn cael eu gwanhau neu a fyddan nhw'n cael eu cynnal o dan y gwahanol sefyllfaoedd hyn? Os mai'r ateb yw nad ydym ni'n gwybod hynny eto heddiw neu ei fod yn rhy gymhleth, rwy'n credu y byddwn i ac Aelodau eraill yn ddiolchgar iawn pe gallai'r Gweinidog ysgrifennu atom pan fydd hynny'n eglur.
Wel, rwy'n sicr yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion, ond fel y bydd yn gwybod, un o'r tasgau yr ydym ni wedi bod yn ymgymryd â nhw ers misoedd lawer iawn yw'r dasg o sicrhau bod y llyfr statud, sy'n cynnwys llawer o'r ddeddfwriaeth y mae'n cyfeirio ati—y llyfr statud Ewropeaidd—yn dod yn rhan o lyfr statud Cymru, os mynnwch chi, llyfr statud y DU, ac sydd wedi bod yn gweithredu ar sail 'dim cytundeb' o'r cychwyn. Pwynt hynny, fel y bydd ef yn cofio efallai, yw sicrhau bod yr hawliau sy'n bodoli yn ôl y gyfraith yn cael eu cadw, os mynnwch chi, o'r diwrnod cyntaf ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, dyna fwriad yr ymarfer hwnnw. Yn amlwg, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y byddwn ni'n colli swyddogaeth Comisiwn yr UE a'i swyddogaeth oruchwylio, ac, yn amlwg, un o'r amcanion yr ydym ni'n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd yw canfod y ffordd orau o roi trefniadau ar waith yng Nghymru sy'n galluogi Llywodraeth i gael ei dwyn i gyfrif.
Mae trafodaethau ar y gweill ac wedi bod ers cryn amser rhwng Gweinidog yr amgylchedd a chymheiriaid ar lefel y DU ynghylch rhai o'r trefniadau hyn. Mae deddfwriaeth yn cael ei chynnig ar lefel y DU gyfan, ond mae'r sefyllfa yma yng Nghymru o ran diogelu'r amgylchedd yn wahanol iawn mewn nifer o ffyrdd, fel y gwn y mae'r Aelod yn ei wybod yn dda iawn. Mae gennym ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; mae gennym ni ein Deddf amgylchedd ein hunain yma a deddfwriaeth benodol arall. Felly, y dasg yw sicrhau bod y trefniadau sydd gennym ni yma yng Nghymru yn cydnabod y sefyllfa wahanol yr ydym ni eisoes yn gweithredu ynddi—byddem ni'n ei disgrifio fel sefyllfa fwy amddiffynnol—a bydd cyfle i sicrhau y gall aelodau'r cyhoedd gyfrannu at ein syniadau yn hynny o beth yn ystod y cyfnod ymgynghori, a ddaw i ben ar 9 Mehefin, a byddwn yn annog yr Aelod—pob Aelod—ac aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan lawn yn y broses honno i hysbysu safbwyntiau Llywodraeth Cymru mewn modd mor drwyadl â phosibl.
Y gwir amdani yw, wrth gwrs, rŷch chi wedi cael dwy flynedd i sortio hyn mas—dros ddwy flynedd i sortio hyn allan. Fe gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu cynlluniau nhw am swyddfa diogelu'r amgylchedd flwyddyn ddiwethaf. Mi oedd Llywodraeth Cymru i fod cyhoeddi rhywbeth yn yr haf, wedyn fe aeth hynny'n hydref, wedyn fe aeth hynny'n flwyddyn newydd—10 diwrnod cyn diwrnod gadael Brexit, i fod, y cyhoeddodd eich Llywodraeth chi ymgynghoriad. Nawr, roeddech chi'n dweud eich bod chi'n dod at hwn ac yn edrych am effective and coherent arrangements, wel, does dim byd lot yn effective a coherent am y modd mae’r Llywodraeth wedi delio â hyn hyd yma. Felly, allech chi ddweud wrthon ni pryd fydd trefniadau deddfwriaeth yn dod ymlaen a threfniadau yn cael eu rhoi yn eu lle? Os oes unrhyw beth yn risg i amgylchedd Cymru, yna'r modd mae’ch Llywodraeth chi wedi llusgo’ch traed ar y mater yma yw’r risg mwyaf.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Dwi ddim yn derbyn sail y cwestiwn hynny. Fel rwy'n dweud, mae’r broses hon wedi bod yn mynd rhagddi ers amser er mwyn sicrhau ein bod ni'n sicrhau yr egwyddorion sydd yn addas ar ein cyfer ni yma yng Nghymru. Dyw e ddim yn addas i ni jest dderbyn heb ystyriaeth bellach y trefniadau sydd ar y gweill ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid sicrhau eu bod nhw’n briodol i’n tirwedd ddeddfwriaethol ni yma yng Nghymru, a’r hawliau sydd gyda phobl yng Nghymru, sydd yn amgen, a dweud y gwir, i'r hawliau sydd gyda phobl ar draws y Deyrnas Unedig mewn amryw o ffyrdd.
Mae’r broses o sicrhau'r sail ddeddfwriaethol honno wedi bod, fel gwnes i sôn yn fy ateb i Huw Irranca-Davies, yn mynd rhagddi am gyfnod sylweddol iawn. Ac fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae proses hefyd o sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol yn digwydd ar y cyd â Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig. Rwy'n gwybod bod ei blaid e wedi gwrthwynebu i'r sail mae hynny wedi bod yn digwydd, ond mae e wedi bod yn digwydd, mewn gwirionedd, mewn ffordd effeithiol iawn, ac rŷn ni’n gobeithio y daw hwnna i fwcwl maes o law.
Cwestiwn 2—Huw Irranca-Davies.