Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 2 Ebrill 2019.
Y gwir amdani yw, wrth gwrs, rŷch chi wedi cael dwy flynedd i sortio hyn mas—dros ddwy flynedd i sortio hyn allan. Fe gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu cynlluniau nhw am swyddfa diogelu'r amgylchedd flwyddyn ddiwethaf. Mi oedd Llywodraeth Cymru i fod cyhoeddi rhywbeth yn yr haf, wedyn fe aeth hynny'n hydref, wedyn fe aeth hynny'n flwyddyn newydd—10 diwrnod cyn diwrnod gadael Brexit, i fod, y cyhoeddodd eich Llywodraeth chi ymgynghoriad. Nawr, roeddech chi'n dweud eich bod chi'n dod at hwn ac yn edrych am effective and coherent arrangements, wel, does dim byd lot yn effective a coherent am y modd mae’r Llywodraeth wedi delio â hyn hyd yma. Felly, allech chi ddweud wrthon ni pryd fydd trefniadau deddfwriaeth yn dod ymlaen a threfniadau yn cael eu rhoi yn eu lle? Os oes unrhyw beth yn risg i amgylchedd Cymru, yna'r modd mae’ch Llywodraeth chi wedi llusgo’ch traed ar y mater yma yw’r risg mwyaf.