Penderfyniadau Amgylcheddol ar ôl Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 2 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:25, 2 Ebrill 2019

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Dwi ddim yn derbyn sail y cwestiwn hynny. Fel rwy'n dweud, mae’r broses hon wedi bod yn mynd rhagddi ers amser er mwyn sicrhau ein bod ni'n sicrhau yr egwyddorion sydd yn addas ar ein cyfer ni yma yng Nghymru. Dyw e ddim yn addas i ni jest dderbyn heb ystyriaeth bellach y trefniadau sydd ar y gweill ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid sicrhau eu bod nhw’n briodol i’n tirwedd ddeddfwriaethol ni yma yng Nghymru, a’r hawliau sydd gyda phobl yng Nghymru, sydd yn amgen, a dweud y gwir, i'r hawliau sydd gyda phobl ar draws y Deyrnas Unedig mewn amryw o ffyrdd.

Mae’r broses o sicrhau'r sail ddeddfwriaethol honno wedi bod, fel gwnes i sôn yn fy ateb i Huw Irranca-Davies, yn mynd rhagddi am gyfnod sylweddol iawn. Ac fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae proses hefyd o sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol yn digwydd ar y cyd â Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig. Rwy'n gwybod bod ei blaid e wedi gwrthwynebu i'r sail mae hynny wedi bod yn digwydd, ond mae e wedi bod yn digwydd, mewn gwirionedd, mewn ffordd effeithiol iawn, ac rŷn ni’n gobeithio y daw hwnna i fwcwl maes o law.