Newid y Llw Teyrngarwch

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 2 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:30, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwyf i newydd glywed rhywun yn gweiddi oddi ar ei eistedd, 'Gwarthus'. Ond, fel rhywun sy'n weriniaethwr, hoffwn gael y dewis o gael y llw teyrngarwch hwnnw i ddinasyddion Cymru ac nid i gorff sy'n ymgorffori braint a grym etifeddol sy'n aml yn anathema i bobl Cymru. Mae fy mhrif ffyddlondeb i'r bobl. A allwch chi amlinellu pa un a allai Llywodraeth Cymru wneud cais i'r pwerau dros y llw teyrngarwch gael eu newid, ac a fyddech chi'n fodlon ystyried gwelliannau yn y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sy'n ystyried newid pleidleisio ar gyfer pobl 16 mlwydd oed, yn ystyried newid y system gyfan, er mwyn caniatáu i'r dewis fodoli—nid wyf i'n dweud ei ddiddymu, i'r breniniaethwyr yn y Siambr—i ganiatáu i'r dewis fodoli i'r rhai hynny ohonom nad ydym ni eisiau tyngu llw teyrngarwch i'r frenhiniaeth i wneud gwahanol fath o lw, ar gyfer Cymru gyfoes?