Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 2 Ebrill 2019.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ac mae'r pwynt yn dwyn i gof y ddeiseb a gyflwynwyd gan Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, yn y Senedd yn 2006, a oedd yn galw am newid y gyfraith i roi cyfle i Aelodau Cynulliad Cymru addo teyrngarwch i bobl Cymru, yn hytrach nag i'r Frenhines. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad polisi i geisio newid y sefyllfa honno. Adlewyrchir y ddeddfwriaeth yng Nghymru, mewn ystyr, gyda deddfwriaeth yn yr Alban o ran y cyfyngiad sy'n gwahardd y Senedd—y Cynulliad yma—rhag diwygio'r ddeddfwriaeth berthnasol. [Torri ar draws.] Mae hi wrth gwrs—fel y mae hi'n ei ddweud oddi ar ei heistedd—yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon, am resymau sydd efallai yn benodol i Ogledd Iwerddon, a dyna, rwy'n credu, yw'r sail resymegol dros ddefnyddio dull gwahanol. Rwyf yn digwydd bod yn rhannu ei barn y byddem yn well ein byd drwy gael pennaeth etholedig i'r wladwriaeth, ond byddwn hefyd yn dweud, pe byddech yn gofyn i mi restru efallai y 10 prif rwystr i setliad cyfansoddiadol gwell yma yng Nghymru, byddwn yn hawdd yn gallu nodi 10 sydd efallai yn yn fwy dybryd a phellgyrhaeddol na'r pwynt penodol yna.