3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 2 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:00, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Ar 20 Mawrth, cyfarwyddodd Llywodraeth Cymru y Cynulliad hwn i ysgrifennu at y pwyllgor Ewropeaidd atal artaith i godi pryderon Imam Sis a'r streicwyr newyn Cwrdaidd eraill ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Imam, sy'n byw yng Nghasnewydd, yn awr ar ei ganfed a saith diwrnod o streic newyn. Mae'r sefyllfa bellach yn ddifrifol iawn. Mae'n ddybryd. Mae'n fater brys mawr. Sylwaf nad yw'r cynnig, er ei basio, yn rhwymo'r Llywodraeth, ac felly hoffwn ddiweddariad, os gwelwch yn dda ynghylch a yw'r Llywodraeth wedi gweithredu ar y cyfarwyddiadau a roddwyd iddo gan y Cynulliad. Byddwn yn nodi hefyd, yn ystod y ddadl, fod y Gweinidog wedi dweud wrthyf na fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i gymryd camau ar hyn oherwydd nid yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Ond ar ôl hepgor yr egwyddor honno yn y ddadl a oedd yn dilyn yn union wedi hynny, yn ymwneud â menywod WASPI, lle nododd y Llywodraeth y byddai'n ysgrifennu llythyr, a gawn ni sicrwydd, os gwelwch yn dda, y bydd yr un egwyddor yn cael ei dilyn yma? Rwy'n poeni'n fawr am Imam.