Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 2 Ebrill 2019.
Diolch ichi am godi'r mater hwn eto. Credaf, fel y llwyddodd y Gweinidog i amlinellu yn ei hymateb i'r ddadl, ei bod yn sefyllfa hynod ddifrifol ac yn un sy'n peri pryder, ac mae'n sefyllfa y mae llawer o bobl ledled Cymru yn teimlo'n angerddol iawn yn ei chylch hefyd. Eglurodd y Gweinidog mai'r Cynulliad fyddai'n anfon unrhyw lythyr ar ran y Cynulliad. Fel rheol nid Llywodraeth Cymru fyddai’n gwneud hynny ar ei ran. Ond yn sicr byddaf yn cael sgwrs bellach i ystyried pa gamau y gellid eu cymryd.