Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 2 Ebrill 2019.
Gofynnaf ichi edrych eto ar yr ymateb a roddodd y Prif Weinidog i arweinydd Plaid Cymru pan ofynnodd gwestiwn ar y mater penodol hwn ychydig yn gynharach y prynhawn yma. Mae'r Prif Weinidog yn nodi ei fod ar hyn o bryd yn ystyried y dyfarniad a wnaed ac yn cymryd cyngor pellach gyda'r bwriad o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad maes o law.