Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 2 Ebrill 2019.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi ysgrifennu at David Lidington i geisio sicrhau swyddogaeth statudol ar gyfer y Llywodraethau datganoledig yn negodiadau'r dyfodol, ond rwyf yn ei chael hi'n syfrdanol mai dim ond nawr y ceir y cadarnhad hwn, bedwar diwrnod ar ôl yr oeddem ni i fod i adael yr UE. Dylai'r Llywodraeth fod wedi cyhoeddi hyn yn amod yn ystod y trafodaethau ynghylch y cytundeb rhynglywodraethol, yn hytrach nag fel cais ar ôl ildio faint bynnag o rym a oedd gennym ni, oherwydd mae profiad yn dweud wrthym ni na fydd y wladwriaeth Brydeinig ond yn cyfaddawdu os oes gan yr ochr arall rywbeth y mae arni ei eisiau. Ni waeth heb ag apelio am degwch.
Rydym ni bellach dim ond 10 diwrnod o'r diwrnod dynodedig nesaf ar gyfer gadael yr UE. Mae'r dyddiad cau terfynol o ran gwneud penderfyniad yn prysur agosáu ac os ydym ni i ddod o hyd i ateb ymarferol sy'n osgoi trychineb ymadael heb gytundeb, mae Llafur yn mynd i orfod cael trefn arni hi ei hun. Ofer yw disgwyl i'r Blaid Geidwadol gefnogi unrhyw gynigion rhesymol yn San Steffan oherwydd maen nhw wedi gadael y byd go iawn ers amser maith ac yng ngyddfau ei gilydd mewn byd breuddwyd o'u gwneuthuriad eu hunain. Daeth AS Grantham a Stamford, Nick Boles, i'r un casgliad ddoe ac ymddiswyddodd chwip y blaid Dorïaidd o ganlyniad.
O ran y cynigion a gyflwynwyd neithiwr, pleidleisiodd Aelodau Seneddol Plaid Cymru, yn yr ysbryd o gyfaddawd adeiladol, o blaid tri dewis sy'n dderbyniol i ni fel ffordd ymlaen. Wnaethom ni ddim cefnogi gwelliant Clarke, sy'n galw yn syml am aelodaeth o'r undeb tollau, oherwydd nad yw'n cynnig y gwarantau sydd eu hangen arnom ni o ran yr economi, hawliau gweithwyr a diogelu'r amgylchedd. Pleidleisiodd ein Haelodau Seneddol am y cynnig farchnad gyffredin 2.0 a phleidlais gadarnhau, a chredwn y dylid cyfuno'r ddau ddewis yma fel y gellid cynnal refferendwm rhwng cynllun Brexit ymarferol sy'n seiliedig ar y farchnad sengl ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, byddai'r ddau ddewis hyn wedi cario'r dydd neithiwr pe bai'r holl Aelodau Seneddol Llafur yn eu cefnogi. Mae gan Llafur lawer i ateb drosto yn hyn o beth, ac rwy'n rhyfeddu'n arbennig bod dirprwy arweinydd Llafur Cymru, Carolyn Harris, yn un o'r Aelodau Seneddol i ymatal ar refferendwm, a hyd yn oed yn fwy syfrdanol nad yw Ms Harris ac Aelodau Seneddol Llafur eraill a aeth yn groes i'r chwip wedi colli'r chwip wedyn o ganlyniad.
Y dewis arall a drafodwyd neithiwr oedd cynnig Joanna Cherry, y polisi yswiriant Brexit—rhwyd ddiogelwch wedi'i chynllunio i wneud dirymu erthygl 50 y dewis diofyn yn hytrach nag ymadael heb gytundeb os na chytunwyd i ymadael heb gytundeb neu i ofyn am estyniad erbyn 10 Ebrill, gydag ymchwiliad cyhoeddus llawn i ddilyn i weld a ddylid cynnal refferendwm pellach ar gytundeb Brexit a allai fod yn ymarferol ac ennyn cefnogaeth y cyhoedd.
Awgrymodd y Gweinidog yn ei ateb i mi yr wythnos diwethaf fy mod i wedi rhoi camargraff o'r sefyllfa yn hyn o beth, gan ei fod yn credu fod dirymu erthygl 50 gyda refferendwm pellach posib i ddilyn hyn yn amhosib. Tybed a fyddai'n barod i roi eglurhad ynghylch hyn, oherwydd dywedodd ei gydweithiwr Keir Starmer yn glir iawn ddoe nad oedd yn gwrthod yr egwyddor y tu ôl i gynnig dirymu Joanna Cherry, neu i'w roi mewn ffordd arall: a yw'r Gweinidog yn cytuno gyda Mr Starmer neu ef ei hun yn hyn o beth? Mae'n bwynt syml o resymeg na all yr hawl i ddirymu fod yn unochrog ac yn amodol ar yr un pryd, ac mae arbenigwyr ar gyfraith yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud na fyddai unrhyw dir cyfreithiol i herio dirymu yn y llysoedd Ewropeaidd, gan mai'r unig amodau sydd angen eu bodloni yw'r rheini mewn cysylltiad â dirymu gofynion cyfansoddiadol aelod wladwriaethau. Dywedodd Mr Starmer mai rheswm y Blaid Lafur dros beidio â chefnogi'r cynnig neithiwr oedd oherwydd nad oedd hi'n bryd mynd i'r afael â'r mater eto. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Prif Weinidog Cymru wedi dweud y prynhawn yma y byddai'n well gan y Llywodraeth ddirymu dros beidio â chael cytundeb, ond rwy'n awgrymu'n gryf ei bod hi'n hen bryd bellach mynd i'r afael â'r mater a'i bod hi bellach yn bryd gweithredu.
Hoffwn gloi drwy ofyn i'r Gweinidog ddweud ar goedd beth yw dewis cyntaf Llywodraeth Cymru o ran y dewisiadau sydd bellach ar gael a hefyd a yw'r Gweinidog yn cytuno â Phlaid Cymru, sef, os yw dewis dros Brexit yn y pen draw yn sicrhau mwyafrif, y dylai hyn fod yn destun refferendwm cadarnhau gyda dewis i aros.