Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 2 Ebrill 2019.
Wel, fe wnaf i wrthsefyll y demtasiwn i wneud y sylw amlwg ynghylch cynnwys newydd, ond mae'n ofid imi ei fod yn teimlo ei bod hi'n amhriodol i'r Cynulliad gael cyfle i drafod yr hyn yw'r mater pwysicaf y mae'r rhan fwyaf o'n hetholwyr yn ei wynebu, gan gynnwys ei etholwyr ei hun, ar adeg pan fo'r sefyllfa sy'n wynebu'r Senedd ac yr ydym ni yn ei hwynebu yma yng Nghymru mor enbydus. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn edrych i'r lle hwn er mwyn trafod sut rydym ni'n teimlo y dylai'r broses hon ddatblygu er budd gorau Cymru. Rwy'n croesawu'r cyfle i gael y drafodaeth hon gydag ef yn y Siambr.
Mae'n gwneud sylwadau ynglŷn â chefnogi cytundeb y Prif Weinidog. Mae cytundeb y Prif Weinidog yn cynnwys dwy ran, er y byddai'n hoffi inni gredu ar hyn o bryd nad yw ond yn cynnwys un rhan. Ond fe wyddom ni am y diffygion sylfaenol yn y datganiad gwleidyddol: nid yw'n cynnwys yr ymrwymiad hwnnw i undeb tollau parhaol, tymor hir, nid yw'n cynnwys ymrwymiad llawn i gael cyfatebiaeth o ran rheoleiddio gyda'r farchnad sengl. Yn y bôn nid yw er budd Cymru. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ein bod yn edrych ar beth sy'n digwydd yn y Senedd ac rydym ni'n gweld lle mae consensws, neu ymdeimlad o gyfaddawd, yn dechrau dod i'r amlwg.
Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud nifer o ymrwymiadau yn ogystal â beth sydd yn y datganiad gwleidyddol, nad ydyn nhw yn y datganiad. Pe baen nhw yno—ymrwymiadau ynghylch cyfatebiaeth rheoleiddiol ddeinamig gyda'r farchnad sengl a'r trefniant hwnnw ynglŷn â'r undeb tollau y mae Kenneth Clarke ac eraill wedi ei gyflwyno yn y Senedd—ac y byddai modd ei ymgorffori yn y datganiad gwleidyddol newydd, dyna'r math o gytundeb y gallem ni ei gymeradwyo. Rydych chi'n gofyn ym mha fodd ydym ni wedi cyfaddawdu; mae hynny'n gyfaddawd ymarferol. Nid yw'n gwestiwn o lynu at safbwyntiau. Nid yw'n gwestiwn o guddio rhag y gwir, fel mae Prif Weinidog y DU yn ei wneud, ac anwybyddu'r hyn sy'n digwydd ar bob llaw iddi yn y Senedd gydag ychydig dros wythnos i fynd. Dyna yw diffyg arweinyddiaeth. Dyna yw absenoldeb cyfaddawd.
Mae'n dweud ein bod yn ofni etholiad cyffredinol. Rwyf i'n dweud, 'amdani', a dweud y gwir. Byddwn yn croesawu'r cyfle i ddisodli Theresa May gyda Jeremy Corbyn yn y Senedd ac ymgyrchu mewn etholaethau ledled Cymru. Byddwn yn falch iawn o fod yn y sefyllfa honno. Ond gadewch inni fod yn glir ynghylch hynny. Mae'r Prif Weinidog, er ei bod hi'n dweud y gwnaiff hi gysylltu cynnig o hyder â'i chytundeb marw, nid yw hi mewn unrhyw sefyllfa i arwain y Blaid Geidwadol i etholiad cyffredinol. Nid oes ganddi unrhyw awdurdod. Sut fyddai hi'n mynd ati i ysgrifennu maniffesto? Sut fyddai hi'n cynnull Cabinet sy'n chwalu? Mae ganddi gabinet sy'n pleidleisio mewn tair gwahanol ffordd ar bethau. Nid yw hi mewn unrhyw sefyllfa i alw etholiad cyffredinol.
Mae'r Aelod yn holi, yn olaf, am frad. Dyna'r iaith mae'n ei ddefnyddio. Nid wyf i eisiau defnyddio'r iaith honno. Rwy'n credu bod y math hwnnw o iaith yn iaith sy'n iselhau'r ddadl mewn ffordd y gwyddom ni beth yw ei ben draw. Rwy'n derbyn nad dyna oedd y bwriad, ond rwy'n credu y dylem ni fod yn ofalus ynglŷn â'r math hwnnw o iaith. Ond os yw eisiau defnyddio'r gair 'brad', gadewch i mi ddweud beth sydd yn frad: y math o Brexit heb gytundeb y mae'r Prif Weinidog yn ein harwain tuag ato. Bydd hynny'n bradychu'r rhai a bleidleisiodd i adael a'r rhai a bleidleisiodd i aros. Nid dyna a addawyd, ac nid yw hynny'n syndod oherwydd mae'n ganlyniad dinistriol. Ac o ran pob person a bleidleisiodd i adael, ni fyddent yn disgwyl colli eu swyddi o ganlyniad i hynny, ond dyna'r math o sefyllfa y bydd pobl yn ei wynebu yng Nghymru os cyrhaeddwn y sefyllfa honno ddydd Gwener nesaf. A chyfrifoldeb Prif Weinidog y DU yw cydnabod hynny ac arwain clymblaid o gefnogaeth o blaid gwahanol fath o gytundeb.