Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 2 Ebrill 2019.
Diolch i'r Aelod am nifer o gwestiynau. Rwy'n gobeithio y llwyddaf i wneud cyfiawnder â phob un ohonyn nhw. Yn gyntaf am ei sylw agoriadol, ynghylch yr amddiffyniad statudol ar gyfer gweinyddiaethau datganoledig yn y trafodaethau, bydd hi'n gwybod o ddatganiadau blaenorol yr wyf i wedi eu gwneud yn y fan yma, ac y mae Prif Weinidog Cymru wedi eu gwneud, y bu hyn yn thema gyson o drafodaethau Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, sef ein bod yn teimlo, o ran y trafodaethau sy'n mynd rhagddyn nhw ynghylch y dyfodol, fod gan Lywodraeth Cymru, a Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, swyddogaeth hanfodol.
Roedd y cyfeiriad a wnes yn fy araith yn llythyr a anfonais mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan Brif Weinidog y DU yn y blwch anfon ddydd Gwener, lle ymrwymodd i roi sail statudol i negodiadau'r datganiad gwleidyddol ei hun—nid negodiadau'r dyfodol yn fwy cyffredinol. Bydd yr Aelod yn gwybod, wythnos neu 10 diwrnod yn ôl, y gwnes i ddatganiad, ac ysgrifennu at David Lidington a Stephen Barclay yn Llywodraeth y DU, yn cynnig geiriad y gellid ei ddefnyddio o ran Bil diwygio'r cytundeb ymadael, a fyddai'n gwneud y gwaith hwnnw, a fyddai'n rhoi modd i'r Senedd oruchwylio, ond a fyddai hefyd yn rhoi swyddogaeth i'r sefydliadau datganoledig yn y gwaith o ddiwygio'r datganiad ei hun. Ar ôl clywed Prif Weinidog y DU a'r Twrnai Cyffredinol yn ymrwymo i rywfaint o hynny, roeddwn yn teimlo ei bod hi'n bwysig ceisio cael ymrwymiad ynglŷn â chydbwysedd hynny, a dyna'r rheswm yr ysgrifennais.
Mae hi'n cyfeirio at y cytundeb rhynglywodraethol. Bydd hi'n cofio efallai mai diben y cytundeb rhynglywodraethol yn wir oedd sicrhau nifer sylweddol o gonsesiynau statudol. A'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw sydd wedi galluogi datblygu fframweithiau rhwng y gweinyddiaethau yn y DU, mewn ffordd sydd, ar y cyfan, wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Roedd hi—a'i chyd-Aelodau, efallai, cyn iddi ymuno â'r tŷ—yn arfer dweud yn gyson ei fod yn fecanwaith ar gyfer dwyn pwerau ymaith. Rwyf eto i glywed am un pŵer ar y rhestr honno o bwerau a ddygwyd ymaith; y rheswm syml iawn am hynny yw oherwydd nad oes unrhyw un.
O ran y pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin neithiwr, roeddwn yn gobeithio fy mod i wedi ei gwneud hi'n glir yn fy natganiad y byddai gwelliant Clarke, o'i ystyried ynghyd ag ymrwymiadau eraill a wnaeth Prif Weinidog y DU yn dilyn hynny, y byddai angen eu hystyried gyda'i gilydd mewn datganiad gwleidyddol diwygiedig. Rwy'n croesawu sut yr aeth ei chyd-Aelod Seneddol neithiwr ati yn y pleidleisiau hyn, ac fel yr aeth ati'n arbennig i eirioli dros 'Diogelu Dyfodol Cymru' fel egwyddorion y mae Plaid Cymru yn eu cymeradwyo o hyd, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad parhaus hwnnw, hyd yn oed yn Nhŷ'r Cyffredin.
Soniodd am y sylwadau a wnaed gan Keir Starmer ynghylch y dehongliad o benderfyniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn achos Wightman, sef yr achos perthnasol yn hyn o beth. Mae'r dyfarniad yn glir: bod angen i'r dirymu fod yn ddiamwys ac yn ddiamod, ac nad yw'n fecanwaith y gall aelod-wladwriaeth ei ddefnyddio dim ond er mwyn gohirio proses erthygl 50. Ac mae'r rheswm am hynny yn amlwg, onid yw? Mae yna fecanwaith yn y ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r pŵer i aelod-wladwriaethau eraill gydsynio neu beidio. Pe gallai aelod arfer yr hawl honno'n annibynnol, byddai hynny'n tanseilio hawliau aelod-wladwriaethau eraill. Felly, nid yw'n syndod mai dyna gasgliad y llys.
Ac fe wnaf adleisio, os caf i, sylwadau Prif Weinidog Cymru yn gynharach yn y Siambr: nid dyma'r amser y mae modd mewn difrif gwneud penderfyniad sydd â goblygiadau cyfansoddiadol mor sylweddol. Yn y pen draw, efallai bod casgliad gwahanol ynghylch hynny, ond ar hyn o bryd, nid ydym ni wedi cyrraedd yr eiliad honno o benderfynu lle mai'r dewisiadau eraill yw dirymu neu ddim cytundeb.