Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 2 Ebrill 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy’n falch iawn o weld bod rhywfaint o gynnydd wedi digwydd o ran recriwtio meddygon teulu dros y 18 mis diwethaf, ond rhaid imi ddweud ei fod yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Rydym wedi gwybod ers amser hir iawn bod prinder sylweddol o unigolion yn dod i mewn i'r gweithlu meddygon teulu ac, yn wir, roedd yr undebau a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn rhybuddio gymaint â degawd yn ôl nad oeddem ni’n hyfforddi niferoedd digonol o bobl i gymryd lle’r rhai a oedd yn gadael y proffesiwn oherwydd ymddeoliad. Er fy mod i’n canmol yr ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud o’r diwedd a fy mod i’n falch o weld rhywfaint o gynnydd, dydw i ddim yn credu y bydd yn ddigon i allu llenwi'r bwlch sydd wedi’i achosi gan bobl sy'n gadael y proffesiwn ar hyn o bryd.
Wrth gwrs, yr ymgyrch 'Hyfforddi. Byw. Gweithio.', sy’n ymgyrch glodwiw, sy’n gyfrifol am sicrhau rhywfaint o’r cynnydd hwn yn y diddordeb mewn dod i fyw a gweithio fel meddyg teulu yma yng Nghymru, ond eto rydych chi’n methu â chydnabod y difrod sylweddol sydd wedi'i wneud i'r ymgyrch honno gan eich cyhoeddiad ddoe, ar ddydd ffŵl Ebrill, o bob dydd, ynglŷn â’r pecyn indemniad meddyg teulu, yr ydych wedi penderfynu ei lansio’n unochrog heb gytundeb y gweithlu meddygon teulu. Oherwydd ein bod yn gwybod bod y gweithlu meddygon teulu’n anfodlon iawn, iawn wir â’r hyn yr ydych chi’n ei gynnig. Rydych chi’n cynnig, wrth gwrs, brigdorri o’r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, yr £11 miliwn fwy neu lai sydd ei angen arnoch chi i allu ariannu'r cynllun indemniad hwn, ar adeg pan fo meddygon teulu dros y ffin yn Lloegr yn cael cynnydd yn y cyllid sydd ar gael iddyn nhw yn eu meddygfeydd.
Nawr, nid fi sy'n dweud y pethau hyn. Mae hyn i’w gael i bawb ar y cyfryngau cymdeithasol, yn gynnwys Dr Dylan Parry, un o'm hetholwyr, meddyg teulu yn Hen Golwyn, a fu’n arwain yr ymgyrch ‘Hyfforddi. Gweithio. Byw.’, sydd erbyn hyn yn dweud ei fod yn teimlo ei fod yn gwerthu rhyw fath o stori ffug am y gobaith a’r daioni a all ddod o adleoli i Gymru. A dydw i ddim eisiau iddo fod yn y sefyllfa honno. Hoffwn i iddo allu gwerthu Cymru fel lle i ddod i fyw a gweithio, gyda'ch teulu, a bod yn feddyg teulu a chael gyrfa lwyddiannus yn y GIG. Ond mae’r cynllun yswiriant indemniad hwn, a gyhoeddwyd gennych chi ddoe, heb gefnogaeth y mwyafrif o feddygon teulu na’u cyrff cynrychioliadol yng Nghymru, rwy’n credu, yn warthus iawn, iawn wir. Rydych chi’n lleihau swm y cyllid sydd ar gael i feddygfeydd teulu yma yng Nghymru. Bydd yn cael effaith sylweddol, yn enwedig ar y meddygfeydd hynny sydd prin yn ymdopi ar hyn o bryd, a byddwn i'n eich annog fel Llywodraeth Cymru i ailystyried eich safbwynt ar hyn, i fynd yn ôl at drafodaethau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ac eraill, fel y gallwn ni ddatrys hyn mewn ffordd foddhaol, sy'n deg i feddygfeydd teulu ledled Cymru heb eu cosbi nhw am y ffaith eu bod nhw wedi ceisio gweithio gyda chi er mwyn sicrhau'r canlyniadau cywir.
A hoffwn eich atgoffa chi o’r sefyllfa bresennol o ran meddygfeydd teulu. Rhwng mis Hydref 2015 a mis Ionawr 2019, gwelsom 24 o feddygfeydd teulu’n cau ledled Cymru. Fe welsom 29 yn mynd i ddwylo eu byrddau iechyd lleol oherwydd bod meddygon teulu wedi rhoi allweddi eu meddygfeydd yn ôl, i bob diben. Yn ôl y BMA, mae eu map gwres yn dweud bod 85 o feddygfeydd mewn perygl o gau. Nawr, mae eich cyhoeddiadau am yswiriant indemniad ddoe’n mynd i roi mwy fyth ohonyn nhw yn y sefyllfaoedd hynny, ac o ganlyniad bydd hyn yn effeithio ar wasanaethau meddyg teulu mwy a mwy o gleifion.
Nawr, fe wnaethoch chi gyfeirio at y cynnydd, Gweinidog, yn nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu. A wnewch chi egluro i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i'r pwyllgorau meddygol ledled Cymru pam mae unigolion cymwys sydd am ddod i fyw a gweithio a chael eu hyfforddi yng Nghymru, sef dyheadau eich ymgyrch, yn cael eu troi ymaith pan wnânt geisiadau? Pam mae 50 y cant o ymgeiswyr cymwys yn y Gogledd, er enghraifft, yn y ddwy flynedd diwethaf wedi eu gwrthod ar adeg pan fo meddygfeydd teulu’n cau drysau am nad ydyn nhw’n gallu recriwtio? Pam nad ydych chi wedi dod o hyd i ddigon o gapasiti yn y system i helpu hyfforddi niferoedd digonol ar gyfer anghenion ein gwasanaeth iechyd gwladol? A phryd y gallwn ni ddisgwyl ichi gynyddu'r lleoedd hyfforddiant hynny fel y gall hi fod yn fwy deniadol i ddod i hyfforddi, byw a gweithio yma yng Nghymru?
Fe allwn i fynd ymlaen â mwy a mwy o ystadegau, ond ni wnaf i hynny. Yr hyn a wnaf i yn syml yw hyn, Gweinidog, a dyma fy mhle olaf: gwrandwch ar lais meddygon teulu. Maen nhw'n anhapus iawn ar hyn o bryd. Maen nhw’n rhybuddio am ymadawiad â Chymru i rannau eraill o’r DU, yn enwedig i Loegr o ardaloedd ar ororau ein gwlad, oherwydd y cynllun indemniad hwn a gyhoeddwyd gennych ddoe. Meddyliwch am y peth. Rydych chi'n gwneud y peth anghywir, ac mae angen ichi gamu'n ôl nawr.