Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:46, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, a gallaf gadarnhau bod swyddogion yn cysylltu'n rheolaidd ag arbenigwyr yn y diwydiant eiddo, ac mae'r ymgysylltiad hwnnw'n parhau. Byddwn yn sicr yn monitro unrhyw effaith ganfyddadwy y gallai'r gyfradd wahaniaethol sydd gennym yma o ran y gyfradd uwch o dreth trafodiadau tir, ei chael ar y trafodiadau gwerth uchel hynny. Fel y dywedaf, blwyddyn yn unig sydd wedi bod, felly nid oes gennym ddarlun llawn eto, ond mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n cadw llygad arno.