1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 3 Ebrill 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Weinidog cyllid, mae adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach ar greu system dreth newydd yng Nghymru wedi amlygu ffeithiau sy'n peri pryder ynghylch y diffyg ymwybyddiaeth o drethi datganoledig. Yn fwyaf syfrdanol o bosibl, canfu eu harolwg ym mis Awst 2018 fod 66 y cant o aelodau’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn dweud pan gawsant eu holi nad oeddent yn ymwybodol o drethi datganoledig, gyda rhai’n dweud na chawsant fawr ddim gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru, os o gwbl. Rhaid cyfaddef mai rai misoedd yn ôl oedd hynny. Mae hyn i’w weld yn croes-ddweud ateb a gefais gan Awdurdod Cyllid Cymru ddoe, a oedd wedi amcangyfrif eu bod wedi cyrraedd cynulleidfa o 4.5 miliwn drwy ymgyrchoedd digidol a chyfryngau cymdeithasol. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd sy'n cael ei wneud i godi proffil trethi datganoledig yng Nghymru, a phwy ydych chi'n credu sy'n gywir? Awdurdod Cyllid Cymru neu'r Ffederasiwn Busnesau Bach?
Diolch i chi am godi'r mater pwysig hwn, yn enwedig yn ystod wythnos bwysig iawn i drethiant yng Nghymru. Roeddwn yn sicr yn falch o dderbyn adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac roeddwn yn falch o'u gwahodd i roi cyflwyniad yn y grŵp cynghori ar dreth i'n helpu i ddeall o'u safbwynt hwy a safbwynt eu haelodau sut y gallant weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru yn y ffordd orau. O ran pwy sy'n gywir, rwy'n credu mewn gwirionedd eu bod ill dau’n gywir yn ôl pob tebyg yn yr ystyr fod adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dod allan ym mis Awst, felly roedd hynny cyn—neu fe wnaed yr ymchwil ym mis Awst—cyn y gwnaed llawer o'r gwaith ymgysylltu a chyfathrebu, ac mewn gwirionedd mae ymchwil y Ffederasiwn Busnesau Bach yn adlewyrchu'r math o ymchwil y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran deall lefel yr ymwybyddiaeth a'r ddealltwriaeth sydd i’w weld ymhlith y cyhoedd yng Nghymru mewn perthynas â threthi. Credaf fod yr adroddiad hwnnw'n rhoi llinell sylfaen dda iawn i ni weithio arni yn awr, o ran ysgogi ein gwaith cyfathrebu i helpu pobl i ddeall trethi Cymru yn well. Hefyd, rwy'n credu bod angen inni wneud gwaith pellach ar drethi lleol. Ond yn sicr mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn gwneud gwaith cwbl ardderchog a dwys er mwyn gallu cyfathrebu.
Gwrthodais y demtasiwn i ddweud ei bod yn wythnos bwysig ar drethi yng Nghymru am ein bod yn tueddu i ddweud hynny yn ystod pob set o gwestiynau gyda'r holl newidiadau sydd wedi bod yn digwydd gyda threthi datganoledig dros y misoedd diwethaf ac yn wir y paratoadau dros gyfnod hwy na hynny. Pan oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn amheus i ba raddau yr oedd materion trethiant yn effeithio ar ymddygiad, a dywedodd,
Nid wyf yn arddel yr olwg economaidd ar y ddynoliaeth fod pobl bob amser yn cyfrifo i lawr i'r geiniog olaf p'un a ydynt am fod mewn un man neu mewn man arall.
Ac eto, gan ddychwelyd at adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac rwy’n falch eich bod wedi ei weld, mae'n dweud bod rhai cyfreithwyr sy'n ymdrin â’r dreth trafodiadau tir eisoes yn dweud bod eu cleientiaid yn ystyried prynu eiddo yn agos at y ffin er mwyn osgoi talu trethi eiddo uwch yng Nghymru. Mewn gwirionedd, un o'u canfyddiadau allweddol oedd bod pryderon yn parhau i gael eu mynegi ynglŷn â’r posibilrwydd o gyfraddau gwahanol rhwng y dreth trafodiadau tir a threth dir treth stamp y DU, ac effaith hynny’n dylanwadu ar ymddygiad trethdalwyr a'r posibilrwydd o gamystumio. Felly, rwy'n deall bod y rhain yn ddyddiau cynnar o hyd, a dim ond rhai cyfreithwyr a ddywedodd hynny, ond serch hynny, mae'n amlwg fod yna faes yma y mae angen i Lywodraeth Cymru ei fonitro. A ydych yn credu ein bod yn gwneud digon i fonitro camystumio posibl ar hyd ardal y ffin, a pha baratoadau yr ydych yn eu gwneud i sicrhau, wrth symud ymlaen, fod y farchnad eiddo yng Nghymru yn sefydlog?
Rwy'n sylweddoli bod eich prif bryder yma yn ymwneud â threth trafodiadau tir amhreswyl, ac wrth gwrs mae gennym gyfradd dreth ddechreuol is ar gyfer prynu eiddo busnes yma yng Nghymru nag o dan dreth dir y dreth stamp, ac mae hyn yn golygu bod pob busnes sy’n prynu eiddo hyd at £1.1 miliwn yng Nghymru naill ai'n osgoi talu unrhyw dreth o gwbl neu'n talu llai nag y byddent o dan dreth dir y dreth stamp. Mae hyn o fudd mawr i fusnesau bach a chanolig ledled y wlad.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y dreth trafodiadau tir, amcangyfrifir y byddai tua naw o bob 10 trafodiad yn osgoi talu’r dreth trafodiadau tir neu byddai'r swm yn llai nag y byddai wedi bod o dan dreth dir y dreth stamp ar gyfer trafodiadau amhreswyl. Felly, rwy'n credu bod y camau a gymerwyd gennym yn sicr o fudd i fusnesau bach a chanolig. Rwy'n deall y pryder ynglŷn â’r 1 y cant ychwanegol ar y gyfradd uwch. Fodd bynnag, credaf ei bod yn llawer rhy gynnar i ddod i gasgliad ynghylch yr effaith a gafodd hynny ar ymddygiad, os o gwbl, ac mae'n werth cofio hefyd fod y flwyddyn cyn i'r dreth trafodiadau tir ddod yn weithredol yn flwyddyn eithriadol o ran derbyniadau treth neu o ran trafodiadau ar yr eiddo gwerth uwch. Felly rwy'n meddwl ei fod yn rhywbeth yr ydym yn ei wylio'n agos. Byddwn yn cael y ffigurau alldro ym mis Mehefin eleni, felly bydd gennym well dealltwriaeth o ymddygiad y flwyddyn gyntaf o leiaf.
Mae fy nghydweithiwr ar y Pwyllgor Cyllid, Mike Hedges, bob amser yn awyddus i nodi natur gylchol y dreth trafodiadau tir a thrafodiadau eiddo, ac yn sicr mae'r hyn rydych newydd ei ddweud ynglŷn â’i bod yn ddyddiau cynnar a’r blynyddoedd eithriadol a gafwyd yn rhywbeth yr edrychasom arno ar y Pwyllgor Cyllid.
Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedasoch, y dylai pobl sy'n prynu eiddo ar y pen isaf ysgwyddo llai o faich treth. Credaf y byddem i gyd yn cytuno â hynny, nid yn unig o ran trethiant, ond o ran y dreth incwm hefyd, gyda Llywodraeth y DU yn tynnu mwy o bobl allan o'r dosbarth treth o ran y lwfans ar y pen isaf. Mae hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, gan droi’n ôl at adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach a'r dreth trafodiadau tir, mae'r ffigurau diweddaraf hefyd yn dechrau canu larymau ynghylch codi'r trothwyon treth ar gyfer eiddo ar y pen uchaf, dros £1 miliwn, i'r hyn sydd ymhlith y lefelau uchaf yn y DU.
Er nad ydym eto wedi gweld casgliad y flwyddyn lawn ar gyfer y dreth trafodiadau tir, mae adolygiad eiddo masnachol CoStar yn y DU ar gyfer chwarter 3 yn 2018 yn dangos mai Cymru yw un o'r rhanbarthau gwannaf yn y DU ar gyfer buddsoddi mewn eiddo—i lawr 70 y cant, neu £54 miliwn yn erbyn cyfartaledd chwarterol pum mlynedd. Nawr, er fy mod yn derbyn efallai nad trethiant yn unig sy'n achosi hynny, a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r sefyllfa hon yn agos iawn? Ac os ydych yn cael rhybuddion gan CoStar a sefydliadau eraill, fod yr ystadegau'n awgrymu bod polisi trethiant Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn niweidiol i'r economi, a wnewch chi newid y trywydd yn gyflym a sicrhau nad ydym yn annog pobl i beidio â buddsoddi drwy drethu'r rhai ar y pen uchaf yn ormodol?
Diolch, a gallaf gadarnhau bod swyddogion yn cysylltu'n rheolaidd ag arbenigwyr yn y diwydiant eiddo, ac mae'r ymgysylltiad hwnnw'n parhau. Byddwn yn sicr yn monitro unrhyw effaith ganfyddadwy y gallai'r gyfradd wahaniaethol sydd gennym yma o ran y gyfradd uwch o dreth trafodiadau tir, ei chael ar y trafodiadau gwerth uchel hynny. Fel y dywedaf, blwyddyn yn unig sydd wedi bod, felly nid oes gennym ddarlun llawn eto, ond mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n cadw llygad arno.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mae'r byd yn newid, mae'r economi yn newid efo fo, ac un newid ydy bod yr economi wybodaeth yn dod yn fwy a mwy pwysig, ac yn hynny o beth mae gwariant ar ymchwil a datblygu yn mynd i fod yn dod yn bwysicach. Dyna sut i greu syniadau newydd a dyfeisiau newydd fydd yn sail i genhedlaeth newydd o fusnesau. All y Gweinidog roi diweddariad i ni ar wariant R&D o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru?
Yn sicr. Byddaf yn ceisio darparu ffigurau pendant i chi ynglŷn â'n gwariant ar ymchwil a datblygu,FootnoteLink ond un o'r pryderon a fu gennym yn y cyfnod diweddar, wrth gwrs, yw effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ein capasiti ymchwil a datblygu. Rydym wedi bod yn edrych yn agos iawn ar adroddiad Reid er mwyn sicrhau bod y proffil gorau gennym, os mynnwch, i sicrhau bod Cymru yn cael ei gweld fel cyrchfan gwych ar gyfer ymchwil a datblygu, amgylchedd lle mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol, ond amgylchedd hefyd lle mae academyddion yn cael eu galluogi i ffynnu mewn amgylchedd sy'n hybu'r gwaith a wnânt yn bendant iawn.
Diolch am yr ymateb hwnnw, ac rwyf innau hefyd yn sicr yn rhannu'r pryder am effeithiau gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ddyfodol cyllid ymchwil a datblygu yng Nghymru. Daw arian ymchwil a datblygu o lawer o ffynonellau gwahanol, wrth gwrs, a busnes yw'r ffynhonnell fwyaf o arian o bell ffordd, ond gadewch imi edrych ar addysg uwch. Dengys ffigurau diweddar fod cyfanswm yr arian a werir ar ymchwil a datblygu addysg uwch yn y DU oddeutu £6.5 biliwn. O'i ddadansoddi, gwelwn fod gwariant y pen yng Nghymru yn £86. Yn Llundain a'r siroedd cartref yn Lloegr, mae'n £275 y pen—gwerir bron 60 y cant o gyfanswm y gwariant ymchwil a datblygu mewn addysg uwch yn ne-ddwyrain Lloegr. Mae prifysgolion eu hunain, wrth gwrs, yn denu'r cyllid ymchwil a datblygu hwnnw eu hunain, ond byddai'n anghywir awgrymu na allai Llywodraeth Cymru fod yn ddylanwadol o ran gweld faint yn fwy o arian y gallem ei ddenu i mewn i Gymru. Mae llawer o gronfa bresennol y DU o gyllid ymchwil a datblygu yn mynd i mewn i'r hyn a elwir yn 'driongl euraidd', rhwng Rhydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion Llundain, ac oherwydd eu hanes ym maes ymchwil a datblygu maent yn gallu curo llawer o'r gystadleuaeth a hawlio cyfran fawr o'r arian. Ond a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn bryd bellach i Lywodraeth Cymru ddechrau dadlau'r achos o ddifrif dros greu cronfa Cymru—cronfa warchodedig i Gymru—o gyllid ymchwil a datblygu, y gallai ein prifysgolion wneud cais am gyllid ohoni er mwyn cynyddu'r gwariant yn y sector hwn yng Nghymru?
Wel, yn amlwg rydych yn codi pwynt hynod bwysig. Gwariwyd tua £0.75 biliwn ar ymchwil a datblygu yng Nghymru yn 2017—dyna'r flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer—ac mae hynny'n gynnydd o 4.6 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae hynny bellach, i bob pwrpas, yn cyfateb i'r cynnydd mewn gwariant ymchwil a datblygu ar draws y DU.
Rydych wedi derbyn yr argymhelliad cyntaf yn adolygiad Reid, sef atgyfnerthu ein sefyllfa yn Llundain drwy'r swyddfa sydd gennym yno, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Rydym ein dau wedi cyfeirio at gyfnod rhaglen cronfeydd strwythurol yr EU. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi buddsoddi £340 miliwn, sef 20 y cant o holl gronfeydd strwythurol yr UE a ddyrannwyd i Gymru ac mae'n parhau i chwarae rhan hanfodol yn tyfu economi Cymru ac yn tyfu arbenigedd Cymru.
Felly, yn sicr, buaswn yn awyddus i archwilio beth y byddem yn ei wneud pe bai Llywodraeth y DU yn gwireddu ei gwarant ar gyfer arian yr UE. Yn amlwg, ceir trafodaethau parhaus yno sy'n achosi peth pryder, yn enwedig ynglŷn â'r gyfradd gyfnewid y bwriada Llywodraeth y DU drosglwyddo'r arian i ni arni. Byddaf yn cael trafodaethau, rwy'n meddwl, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod—
Gan gyfeirio'n ôl at eich geiriau cyntaf, rwy'n edmygu eich agwedd gadarnhaol yn dweud bod y cynnydd mewn gwariant ar ymchwil a datblygu yng Nghymru yn cyd-fynd â'r cynnydd mewn rhannau eraill o'r DU. Gadewch imi geisio ei ddarlunio. Mae Cymru wedi cynyddu cymaint â hynny o'r pwynt hwnnw, ond mae gweddill y DU wedi cynyddu cymaint â hynny o bwynt i fyny yno. Mae angen inni anelu at gydraddoldeb â rhannau eraill o'r DU. Gadewch i ni edrych ar fannau eraill. Gadewch i ni edrych ar wariant uniongyrchol y Llywodraeth ar ymchwil a datblygu yng Nghymru. Yn 2016, o'r £2.2 biliwn a wariwyd ar ymchwil a datblygu gan Lywodraeth y DU, gwariwyd £54 y pen yn Llundain a'r siroedd cartref, a dim ond £5 y pen a wariwyd yng Nghymru. Ac fel Gweinidog cyllid, nid ydych yn neidio i fyny ac i lawr ynglŷn â hyn bob dydd. Onid yw'n enghraifft arall o'r Llywodraeth Geidwadol ar lefel y DU yn peidio â buddsoddi yng Nghymru, fel y credwn ni ar y meinciau hyn y dylent ei wneud, ond hefyd eich Llywodraeth chi yn gyson eto yn methu dadlau'r achos dros gyfran Cymru o arian ymchwil a datblygu? Ac mae hynny'n niweidiol i Gymru ac i swyddi yng Nghymru.
Yn amlwg, rwy'n anghytuno. Mae'n ddiddorol bob amser, pryd bynnag y ceisiwch wneud cymhariaeth, rydych yn cymharu bob amser â Llundain a'r siroedd cartref, nad yw o reidrwydd yn gymhariaeth gydnabyddedig â Chymru. Mae gwariant ar ymchwil a datblygu yn isel yng Nghymru, fel y mae ledled y DU o safbwynt y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Mae'n her sy'n ein hwynebu ar draws y DU. Mae lefel y cyllid ymchwil a datblygu mewn unrhyw economi gymharol fach, megis Cymru, wedi'i dylanwadu'n fawr gan nifer fach o brosiectau mawr sy'n dechrau neu sy'n dod i ben, ac mae hynny'n golygu y dylid dehongli canlyniadau unrhyw un flwyddyn yn ochelgar.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Weinidog, hoffwn godi pwnc caffael cyhoeddus. Ar ôl Brexit dylem allu ailedrych ar y rheolau sy'n llywodraethu caffael cyhoeddus, a dylai hyn ei gwneud yn haws i'r sector cyhoeddus yng Nghymru ddyfarnu contractau i gwmnïau bach a busnesau bach a chanolig. Fodd bynnag, hyd yn oed heb ystyried Brexit, mae yna gyfleoedd i'r sector cyhoeddus ei gwneud yn haws i gwmnïau bach wneud cais am gontractau. Er enghraifft, os edrychwn ar y sector iechyd, y broblem yma yw na all cwmnïau lleol gynnig yn realistig am lawer o gontractau, er enghraifft i gyflenwi bwyd i ysbyty penodol, oherwydd mae'r contractau hyn yn tueddu i gael eu dyfarnu gan fwrdd iechyd GIG i ddarparu bwyd ar draws ystâd gyfan y bwrdd iechyd, sy'n golygu wrth gwrs fod y rhan fwyaf o'r contractau hyn yn mynd i gwmnïau mwy o faint yn unig yn y pen draw, ac efallai na fydd rhai ohonynt o reidrwydd yn gwmnïau o Gymru. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried sut y gellid newid y sefyllfa hon, er enghraifft drwy fod byrddau GIG yn rhannu'r ddarpariaeth fwyd yn gontractau llai o faint?
Diolch i chi am godi mater pwysig caffael. Wrth gwrs, mae ein strategaeth yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi yng Nghymru ac ar fusnesau yng Nghymru, gyda chyflenwyr o Gymru bellach yn ennill dros hanner y gwariant caffael blynyddol o £6.2 biliwn. Fodd bynnag, rwy'n awyddus iawn i wneud mwy, a fy uchelgais yw gweld ein busnesau bach a chanolig yn gallu chwarae rhan lawn yn hynny. Yn sicr rydym yn defnyddio ein polisïau i ostwng y rhwystrau i fusnesau bach a'u galluogi i sicrhau lleoedd yn y cadwyni cyflenwi yng Nghymru. Mae'r canlyniadau yr ydym yn eu cyflawni yn rhagori cryn dipyn ar y targedau y mae Llywodraeth y DU yn gweithio tuag atynt ar gyfer ymgysylltu â busnesau bach a chanolig. Felly, mae polisïau o'r fath yn cynnwys buddion cymunedol, cronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr, cyfrifon banc prosiectau, y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol a'n canllawiau ymgeisio ar y cyd. Ac rydym yn parhau i gynnig cyfleoedd i gwmnïau llai o faint, ac mae ein hanogaeth i gyrff cyhoeddus hysbysebu pob contract sy'n werth llai na £25,000 ar GwerthwchiGymru yn ysgogi newidiadau gwirioneddol gadarnhaol.
Ar y meinciau hyn, rydym yn cydnabod y ffaith bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gwneud gwahaniaeth, ond rydym hefyd yn gwybod y bydd angen i Lywodraeth Cymru newid ei dull o weithredu ar ôl Brexit, a chafodd hyn ei gydnabod gan y Prif Weinidog, a ddywedodd yn y Siambr yn ddiweddar y byddai Llywodraeth Cymru, ar ôl Brexit, yn edrych ar ddefnyddio caffael ar lefel fwy lleol neu ranbarthol. Ac rydym hefyd yn gwybod bod templed ar gyfer polisi caffael cyhoeddus wedi'i lunio pan oedd Jane Hutt yn Weinidog cyllid ac roedd yn cynnwys y diwydiant adeiladu yng Nghymru. A yw'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o ba mor dda y mae'r polisi hwn wedi gweithio yn y sector adeiladu?
Yn sicr, rydym yn gweithio i sicrhau bod mentrau bach a chanolig yn gallu gwneud cais am gontractau yn y sector adeiladu, a dyna un o'n sectorau targed allweddol, mewn gwirionedd, o ran ein dull o weithredu caffael. Wrth gwrs, cawsom yr adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru, ac rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y timau hynny'n pontio i wasanaeth newydd gyda phortffolio llai o gontractau cenedlaethol, ond gyda ffocws llawer cryfach ar ddatblygu a chyflawni polisi caffael ar sail leol a rhanbarthol o'r fath, a chredaf y byddai hynny'n rhoi llawer mwy o gyfle i gwmnïau adeiladu llai o faint ddod i gysylltiad â'r contractau sydd ar gael.
Diolch eto i'r Gweinidog am ei hateb wrth gwrs, ond un o'r rhwystrau wrth dendro am gontractau yw'r broses dendro ei hun, wrth gwrs, sy'n galw am lenwi llawer o ffurflenni cymhleth, ac mae'r broses yn defnyddio llawer o adnoddau, rhywbeth a fydd yn aml y tu hwnt i allu cwmnïau bach neu ganolig eu maint. Felly, i grynhoi, Weinidog, rwy'n credu o ddifrif fod hwn yn faes y mae angen i Lywodraeth Cymru fod o ddifrif yn ei gylch, gan y gall effeithio'n sylweddol iawn ar yr economi sylfaenol. Os dyfernir contractau i gwmnïau lleol, mae'r arian a gynhyrchir yn tueddu i aros yn y gymuned leol, ac nid yw hyn yn wir o reidrwydd pan ddyfernir contractau i gwmnïau mawr iawn, yn enwedig os nad yw eu pencadlys yng Nghymru.
Rydym yn cydnabod bod cwmnïau bach yn aml yn cael trafferth i wneud cais am gontractau mawr, a dyna pam rwy'n falch iawn fod 31 y cant o'r contractau a gyhoeddwyd ar GwerthwchiGymru hyd at fis Mawrth eleni wedi'u hysbysebu fel rhai addas ar gyfer gwneud ceisiadau ar y cyd, ac rwy'n credu bod honno'n ffordd bwysig iawn o gynorthwyo cwmnïau bach lleol i wneud cais am y contractau hynny. Ac rydym yn gweld rhai o'r effeithiau cadarnhaol hynny yn y sector adeiladu, lle dyfarnwyd 78 y cant o'r contractau neu'r fframweithiau dros £750,000 a hysbysebwyd drwy GwerthwchiGymru i gontractwyr o Gymru eleni.