Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:55, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Ar y meinciau hyn, rydym yn cydnabod y ffaith bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gwneud gwahaniaeth, ond rydym hefyd yn gwybod y bydd angen i Lywodraeth Cymru newid ei dull o weithredu ar ôl Brexit, a chafodd hyn ei gydnabod gan y Prif Weinidog, a ddywedodd yn y Siambr yn ddiweddar y byddai Llywodraeth Cymru, ar ôl Brexit, yn edrych ar ddefnyddio caffael ar lefel fwy lleol neu ranbarthol. Ac rydym hefyd yn gwybod bod templed ar gyfer polisi caffael cyhoeddus wedi'i lunio pan oedd Jane Hutt yn Weinidog cyllid ac roedd yn cynnwys y diwydiant adeiladu yng Nghymru. A yw'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o ba mor dda y mae'r polisi hwn wedi gweithio yn y sector adeiladu?