Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:52, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, rwy'n anghytuno. Mae'n ddiddorol bob amser, pryd bynnag y ceisiwch wneud cymhariaeth, rydych yn cymharu bob amser â Llundain a'r siroedd cartref, nad yw o reidrwydd yn gymhariaeth gydnabyddedig â Chymru. Mae gwariant ar ymchwil a datblygu yn isel yng Nghymru, fel y mae ledled y DU o safbwynt y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Mae'n her sy'n ein hwynebu ar draws y DU. Mae lefel y cyllid ymchwil a datblygu mewn unrhyw economi gymharol fach, megis Cymru, wedi'i dylanwadu'n fawr gan nifer fach o brosiectau mawr sy'n dechrau neu sy'n dod i ben, ac mae hynny'n golygu y dylid dehongli canlyniadau unrhyw un flwyddyn yn ochelgar.