Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 3 Ebrill 2019.
Mae'n amlwg, wrth gwrs, y gall cydweithrediad effeithiol rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol leihau'r pwysau ar gyllidebau iechyd a gofal. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am gytuno i gyfarfod â mi ddoe i drafod y ffyrdd ymlaen i geisio datblygu rhywfaint o gonsensws ynghylch ffyrdd arloesol o ariannu gofal. A yw'r Gweinidog yn cytuno y byddwn yn parhau i wynebu pwysau cynyddol ar gyllidebau iechyd oni bai y gallwn ddatrys problemau'r rhyngwyneb rhwng iechyd a gofal? Ac a yw hi hefyd yn cytuno y bydd angen buddsoddi'n sylweddol yn ein gwasanaethau gofal os ydym am greu'r parch cydradd hwnnw rhwng y ddau wasanaeth y cytunwn ar draws y Siambr hon y byddai’n ddymunol?