Cwmnïau Tanwydd Ffosil

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:00, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Yn 2018, pleidleisiodd Cyngor Sir Fynwy o blaid gofyn i gronfa Gwent fwyaf, sy'n ymdrin â phensiynau ar gyfer cynghorau Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Chasnewydd, dynnu arian allan drwy orchymyn o gwmnïau sy'n seiliedig ar danwydd ffosil. Amcangyfrifwyd bod y gronfa ar y pryd yn buddsoddi £245 miliwn mewn cwmnïau sy'n seiliedig ar danwydd ffosil. Felly, credaf fod honno'n enghraifft gadarnhaol iawn, ac yn sicr maent yn dangos arweinyddiaeth gref o fewn y sector.

Wrth gwrs, mae'r cynllun pensiwn llywodraeth leol yn gynllun ar gyfer Cymru a Lloegr, felly nid yw wedi'i ddatganoli ac ni fyddai gennym unrhyw ddylanwad uniongyrchol arno. Ond rydym yn edrych yn ofalus ar yr hyn a gyflawnwyd drwy gronfa Gwent fwyaf.