Polisi Caffael Cyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:05, 3 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, nid oes amheuaeth yn fy meddwl fod gan Lywodraeth Cymru strategaeth uchelgeisiol a deinamig i harneisio pŵer caffael cyhoeddus er mwyn gwella cymunedau ledled Cymru. Ond er mwyn gwneud hynny, mae'n gwbl hanfodol fod gennym arbenigwyr caffael wrth galon llywodraeth leol, a gwyddom fod prinder yn y maes hwn. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog llywodraeth leol ynglŷn â hyn ac yn arbennig, a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer cynllun i olynu'r Doniau Cymru, a oedd mor llwyddiannus ychydig flynyddoedd yn ôl?