Cwmnïau Tanwydd Ffosil

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 3 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:58, 3 Ebrill 2019

Dŷch chi ddim wedi dweud dim byd am ddad-fuddsoddi o gwmnïau tanwydd ffosil, hyd y gwelaf i. Ac, wrth gwrs, rŷn ni ar ei hôl hi fan hyn yng Nghymru yn y cyd-destun hwnnw, oherwydd mae Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon wedi penderfynu mai nhw fydd y wlad gyntaf yn y byd i ddad-fuddsoddi a gwerthu eu holl fuddsoddiadau mewn cwmnïau tanwydd ffosil ar ôl i Fil gael ei basio yn ddiweddar gyda chefnogaeth pob plaid yn fanna. Dwi'n siŵr na fyddem ni'n bell o gyflawni hynny yn y Senedd yma hefyd, petai'r Llywodraeth yn dewis dilyn y llwybr hwnnw. Mi fydd, er enghraifft, yng Ngweriniaeth Iwerddon, eu cronfa buddsoddi genedlaethol nhw, sydd gwerth £8 biliwn, yn dad-fuddsoddi o lo, o nwy, o olew ac o fawn cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib, wrth gwrs, ond mae disgwyl i hynny ddigwydd mewn dim mwy na phum mlynedd. Felly, a wnewch chi ymrwymo i Gymru i efelychu hynny er mwyn dangos yn glir yr ymrwymiad gwirioneddol sydd gennym ni o safbwynt newid hinsawdd yn y wlad yma?