Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 3 Ebrill 2019.
Weinidog, rydym yn ymwybodol fod yr anhrefn sy'n gysylltiedig â Brexit ar hyn o bryd eisoes yn cael effaith niweidiol ar gyllidebau'r Deyrnas Unedig, a hefyd ar y canfyddiad o'r Deyrnas Unedig yn y byd ehangach. Rydym hefyd yn ymwybodol nad oes unrhyw fath o Brexit mewn gwirionedd o fudd i'r economi. Nid oes y fath beth â Brexit swyddi yn gyntaf, nid oes y fath beth â Brexit economi yn gyntaf. Gwyddom y bydd Brexit, ar ba ffurf bynnag, yn effeithio'n andwyol ar economi Cymru ac economi'r Deyrnas Unedig. Y cwestiwn i ni ei ofyn i ni ein hunain yw pa fath o effaith negyddol fydd iddo. Nawr, bydd hynny'n amlwg yn effeithio ar ein gallu i godi trethi, yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. Ymddengys i mi y byddai'n ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru'n gallu gwneud datganiad llawn ar effeithiau posibl Brexit, ar ba ffurf bynnag, ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.