Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 3 Ebrill 2019.
Diolch. Fy mwriad yw cyflwyno datganiad cyn diwedd tymor yr haf ar y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus, a bydd hwnnw'n sicr yn seiliedig ar ffurf Brexit, ond rydych yn hollol gywir i ddweud nad oes unrhyw ffurf ar Brexit nad yw'n niweidiol i economi Cymru, ac rydym yn nodi hynny'n glir iawn yn y papur polisi 'Diogelu Dyfodol Cymru', ond hefyd o ran y dadansoddiad economaidd, a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr, ynglŷn â'r ffyrdd posibl o adael yr UE. Ac mewn gwirionedd, mae'n ffaith y gallai Cymru, neu fod Cymru'n debygol o gael ei tharo hyd yn oed yn waeth na rhannau eraill o'r DU. Roedd yn ddiddorol darllen Goldman Sachs heddiw yn dweud bod £600 miliwn yr wythnos wedi'i golli eisoes yn y DU ers y refferendwm ar Ewrop. Yn sicr ni welais hynny ar ochr bws.