Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 3 Ebrill 2019.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl. Os caeaf fy llygaid, gallwn dyngu fy mod wedi bod yma o'r blaen, oherwydd pan ddeuthum gyntaf i'r Siambr hon, roeddwn yn eistedd yn y gadair hon ac roedd fy nghyd-Aelod Jonathan Morgan yn eistedd lle mae Nick Ramsay yn eistedd, ac yn y balot ar gyfer Mesurau ar y pryd, roedd yn ddigon ffodus i ennill y balot ar gyfer y Mesur iechyd meddwl. Cymerodd y Llywodraeth y Mesur iechyd meddwl hwnnw o dan ei hadain, ac fe'i cyflwynwyd yn sgil hynny. Un o'r pethau y ceisiai'r Mesur ei gyflawni wrth gwrs oedd rhoi diwedd ar y loteri cod post y teimlai llawer o bobl ei bod yn bodoli ar y pryd. Yn anffodus, oddeutu 10 mlynedd yn ddiweddarach, yn ôl adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, mae'n amlwg fod y loteri cod post honno'n dal i fodoli mewn llawer o wasanaethau iechyd meddwl.
Nid sgorio pwyntiau gwleidyddol mewn unrhyw fodd yw hyn. Nid wyf yn credu bod iechyd meddwl yn bwynt gwleidyddol, i fod yn onest gyda chi. Buaswn yn ei ystyried yn rhyfeddol pe bai unrhyw un o unrhyw blaid wleidyddol yn ceisio darostwng gwasanaethau iechyd meddwl neu'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl. Mae'n amgylchedd heriol i weithio ynddo, yn enwedig pan edrychwch ar y cynnydd yn y galw am y gwasanaethau hynny. Ond mae'n hanfodol fod yna gynllun cydlynol ar waith i gadw at y teimladau a fynegwyd yn y Siambr hon oddeutu 10 mlynedd yn ôl ynglŷn â dileu'r loteri cod post, ynglŷn â deall arwyddocâd y galwadau ar y gwasanaethau, boed yn y gymuned neu mewn lleoliad acíwt. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, pan fydd yn crynhoi'r ddadl y prynhawn yma, yn rhoi hyder inni, fel Gweinidog ac fel adran—ac ar draws y Llywodraeth, mewn gwirionedd, oherwydd mae hyn yn ymwneud â mwy na'r adran iechyd, mae hyn ar draws y Llywodraeth—fod yna gynllun cyfunol ar waith i godi'r targedau cyflawni fel y gall pobl, yn y pen draw, gael yr amseroedd aros is a chael yr ymateb sydd ei angen arnynt pan fo argyfwng yn digwydd a phan fo aelodau teuluol yn chwilio am gymorth i gefnogi un o'u hanwyliaid sy'n wynebu'r argyfwng hwnnw.
Un o'r pethau pan gyhoeddwyd y Senedd Ieuenctid yn ddiweddar a phan gyfarfûm ag aelodau'r Senedd Ieuenctid o fy ardal etholiadol fy hun—roedd pob un o'r aelodau'n nodi gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc fel maes blaenoriaeth, ynghyd â darparu cymorth iechyd meddwl yn yr ysgol, yn arbennig. Un peth nad oedd y Mesur iechyd meddwl yn ei roi, mae'n amlwg, oedd yr hawl honno i unrhyw un o dan 18 oed. Roedd yn bwynt y ceisiwyd edrych arno ar y pryd, ac mae'n faes pryder problemus sy'n tyfu eich bod yn edrych ar yr amseroedd aros i bobl ifanc gael mynediad at gymorth a chefnogaeth, rydych yn edrych ar yr amseroedd aros i'r teuluoedd gael y cymorth hwnnw, ac nid yw'n digwydd, Weinidog. Rwy'n gobeithio, unwaith eto, yn eich ymateb i hyn, y gallwch roi rhyw oleuni i ni ynglŷn â pha ddatblygiadau rydych yn eu rhoi ar waith i gefnogi pobl mewn addysg sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, oherwydd, yn amlwg, rydym yn gwybod ei fod yn faes sy'n peri pryder cynyddol. Fel y dywedais, pan gyfarfûm ag aelodau a etholwyd o fy ardal etholiadol fy hun i'r Senedd Ieuenctid, roeddent yn bryderus iawn ynglŷn â'r maes hwn ac yn ei restru fel un o'u tair prif flaenoriaeth.
Hefyd, wrth edrych ar yr adroddiad ac edrych ar beth o'r iaith sydd i'w gweld yn benodol, rwy'n credu bod yna ddarpariaeth, yn amlwg, ac yn gwbl briodol felly, ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg a Saesneg, ond fel cynrychiolydd ar gyfer Canol De Cymru—ac mae'r Gweinidog ei hun yn cynrychioli un o'r cymunedau mwyaf amrywiol yng Nghymru, De Caerdydd a Phenarth—mae'n bwysig gwneud yn siŵr fod ieithoedd yn cael eu cynnwys yn y ddarpariaeth ac nad yw pobl yn cael eu heithrio oherwydd yr iaith y maent yn ei siarad. Rwy'n derbyn bod hwn yn faes anodd iawn i weithio gydag ef, oherwydd weithiau rydych yn sôn am ychydig iawn o bobl, ond mae angen darparu gwasanaethau cyfieithu gwell ym maes iechyd meddwl, fel nad yw pobl yn cael eu heithrio yn sgil diffyg cyfieithydd addas i fod yno lle bo angen ac yn y gymuned.
Ac os caf orffen ar y pwynt olaf yn ogystal, rwy'n meddwl mai un o'r pethau a fyddai'n helpu meddygon teulu yn enwedig i ddarparu gwasanaeth gwell yw therapïau siarad, oherwydd dyma faes arall y mae gennyf ddiddordeb personol ynddo. Rwy'n gresynu bod pobl yn aml iawn yn cael eu trin yn feddygol drwy gyffuriau neu ryw fodd arall, pan fo therapïau siarad yn gallu bod o gymaint o gymorth i bobl ac yn eu cadw allan o'r sector acíwt mewn gwirionedd, os cânt therapi siarad mewn modd amserol. Ac nid oes unrhyw gofrestr genedlaethol ar gael i allu cynnwys gweithwyr proffesiynol—therapyddion neu gwnselwyr—arni. Mae llawer o gyrff cydnabyddedig yn rhoi achrediad, ond os ydych yn feddyg teulu, er enghraifft, ni cheir unrhyw gofrestr genedlaethol y gallwch ei defnyddio i gyfeirio rhywun ati, i gael mynediad at gymorth drwy therapïau siarad. Credaf fod hynny'n ddiffyg yn y system—ac efallai y bydd rhywun am fy nghywiro—y gellid ei unioni'n gymharol syml drwy roi cofrestr o'r fath ar waith. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog gymryd rhan yn hynny hefyd wrth iddo annerch y Cynulliad heddiw. Ond rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, ac yn benodol yr ysbryd y cynhaliwyd y ddadl ynddo, oherwydd pan fydd un o bob pedwar ohonom yn cael episod o salwch meddwl ar ryw adeg yn ystod ein hoes, mae'n ddyletswydd arnom oll fel deddfwyr i sicrhau, pan fyddwn yn pasio deddfwriaeth, ei bod yn cyflawni, a phan fydd problem yn codi, ein bod yn rhoi sylw iddi.